Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 29 Mehefin 2016.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac am lwyddo i egluro beth y mae’r talfyrriad SQuID yn ei olygu yn well o lawer nag y gallwn i fod wedi gwneud? Rwyf am barhau â SQuID, er hynny. [Chwerthin.] Mae SQuID yn gynllun ardderchog sy’n caniatáu i gontractwyr llai gystadlu ar draws ystod o brosiectau, a pholisi Llywodraeth Cymru yw y dylai pob awdurdod lleol ei ddefnyddio. Mae arolwg gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn dangos, er bod pob awdurdod lleol yn ei ddefnyddio, mai saith yn unig o’r 22 cyngor sy’n gwneud defnydd llawn ohono. A all y Gweinidog ymchwilio i hyn a cheisio cael yr holl gynghorau i’w ddefnyddio ar gyfer eu holl gontractau?