Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 29 Mehefin 2016.
Rwy’n cytuno’n llwyr, oherwydd nid yw’n ymwneud â’r diffyg cyfleoedd; yr anallu i fanteisio ar y cyfleoedd hynny sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn sôn amdano heddiw yn fy marn i. Clywsom gan Mark Isherwood, wrth gwrs, ein bod yn morio mewn gwaith ymchwil ac adroddiadau ac mae adroddiad arall yn cael ei lansio gan y comisiynydd plant heddiw. Os yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynd i olygu unrhyw beth, mae’n rhaid iddi lwyddo i chwalu seilos a meddylfryd seilo ynglŷn â sut, yn yr achos hwn, rydym yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb gyda’n gilydd dros rianta corfforaethol. Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â llawer mwy nag adrannau Llywodraeth yn unig; fel arall, ni fydd yr holl ymchwil a’r holl adroddiadau hyn yn arwain at ganlyniadau sy’n newid bywyd yn sylfaenol i bobl ifanc mewn gofal, na mynediad at y cyfle roedd Joyce yn sôn amdano yn awr.
Yn y Cynulliad diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad manwl ynghyd ag ymchwiliad dilynol yn ddiweddarach ynglŷn â mabwysiadu. Yn ystod y ddau ymchwiliad, clywsom gan rieni mabwysiadol a fabwysiadodd blentyn heb wybod am y problemau a oedd yn effeithio ar eu plentyn ar adeg y mabwysiadu, neu na chawsant y gefnogaeth briodol i ddelio â phatrymau ymddygiad a ddaeth yn amlwg wrth i’r plentyn dyfu’n hŷn. Ac un o’r pwyntiau y buaswn yn hoffi eu pwysleisio yw’r ffaith nad yw plant a oedd yn arfer derbyn gofal yn peidio â bod ag anghenion wedi iddynt gael eu mabwysiadu. Nid yw creithiau camdriniaeth ac esgeulustod, analluogrwydd neu absenoldeb rhieni neu drafferthion teuluol eithafol yn gwella yn syml oherwydd bod plentyn wedi dod o hyd i deulu newydd i’w garu a’i fagu. Felly, wrth archwilio sut y gellir gwella rhianta corfforaethol rhwng adrannau yn y ddadl heddiw, mae’n rhaid i ni gofio am yr heriau sy’n wynebu teuluoedd sy’n mabwysiadu hefyd, oherwydd ni ddylai’r weithred o drosglwyddo cyfrifoldeb rhiant olygu ein bod yn anghofio am y plant hynny. Am bob cam a gymerwn i wella’r gwerth a roddwn ar rieni maeth a’r rôl hanfodol sydd ganddynt yn magu plant sy’n derbyn gofal, dylem wneud yr un peth i rieni sy’n mabwysiadu. Roedd Llyr yn llygad ei le yn sôn am blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu mabwysiadu yn yr un gwynt.
Ni waeth pa mor dda yw ein rhieni maeth, fel y dywedodd David Melding, bydd llawer o blant sy’n derbyn gofal yn mynd drwy gyfres o leoliadau, gan atgyfnerthu’r diffyg sefydlogrwydd a’r ymlyniad anghyflawn a barodd i’r wladwriaeth ymyrryd a diogelu llawer ohonynt yn y lle cyntaf. Mae yna un math penodol o wahanu rwyf am sôn amdano heddiw, oherwydd ei fod yn galw am gymorth wedi’i dargedu ond caiff ei gymhlethu gan y setliad datganoli, sef plant yr effeithir arnynt gan garchariad rhiant.
Nid yw pob plentyn sydd â rhiant yn y carchar yn derbyn gofal; mae tua dwywaith a hanner cymaint o blant â rhiant yn y carchar ag sydd o blant mewn gofal, ac nid oes gan bob plentyn mewn gofal rieni yn y carchar, wrth gwrs. Yn wir, mewn teuluoedd lle mae’r tad yn y carchar, mae’r mwyafrif llethol o’r plant yn aros gyda’r teulu yn y cartref gyda’r fam. Fodd bynnag, mewn teuluoedd lle mae’r fam yn y carchar, 5 y cant yn unig o blant sy’n aros gartref gyda’r tad. Mae’r mwyafrif yn derbyn gofal gan ofalwyr sy’n berthnasau—neiniau a theidiau yn bennaf, ond aelodau eraill o’r teulu yn ogystal—ac nid yw’r gofal anffurfiol hwn, fel gyda mabwysiadu, yn cael ei gydnabod yn gyson fel trefniant sy’n galw am gefnogaeth weithredol gan y Llywodraeth. Nid yw’r ffaith nad yw plentyn yn cael ei fagu’n gorfforaethol yn ffurfiol yn golygu nad yw’n dioddef yr un problemau datblygiad ac ymddygiad emosiynol sy’n deillio o wahanu a diffyg parhad a sicrwydd â phlant sy’n derbyn gofal.
Mae’n adeg briodol yn awr i gymeradwyo sefydliadau fel Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion a Barnardo’s, yn ogystal â’r gwaith rhagorol a wneir yng ngharchar Parc ar gynnal cysylltiadau teuluol cryf, rhwng tadau a’u plant yn yr achosion hyn. Ond mae’n adeg dda i gofio hefyd, er bod plant yn gyffredinol yn aros gartref gyda mam pan fo dad yn y carchar, pan fo mam yn y carchar, mae 12 y cant o’r plant hynny’n mynd yn rhan o’r system ofal. Mae carcharu mamau nid yn unig yn creu mwy o alw ar ofalwyr sy’n berthnasau heb gefnogaeth, ond mae hefyd yn dod â mwy o blant i mewn i’r system ofal. Gwyddom fod mwy o bobl sy’n gadael gofal yn mynd yn droseddwyr na’u cyfoedion. Gwyddom fod mwy o blant i garcharorion yn mynd yn droseddwyr na’u cyfoedion. Mae’r plant hyn yn wynebu risg dwbl o gael eu carcharu, ac rwy’n gobeithio y bydd unrhyw symudiadau tuag at wella rhianta corfforaethol yn rhoi ystyriaeth arbennig i’r garfan benodol hon o blant. Diolch.