Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn am yr holl gyfraniadau i’r ddadl. Rwy’n falch iawn o gloi’r ddadl hon ynglŷn â’r ffyrdd y gallwn gryfhau gweithio rhyngadrannol er mwyn gwella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal. Mae’n rhaid mai’r broses o sicrhau bod ein plant yn cael bywydau hapus a chyflawn yw un o swyddogaethau pwysicaf y Cynulliad hwn. Nid oes llais gan blant, yn enwedig plant sy’n derbyn gofal, felly dyna pam y mae’n rhaid i ni siarad ar eu rhan.
Yn ei araith agoriadol, dangosodd David Melding ei ymrwymiad, unwaith eto, i blant sy’n derbyn gofal a’r gwaith gwych y mae bob amser wedi’i wneud yn y Cynulliad hwn i warchod eu buddiannau. Soniodd am ‘Ar Goll mewn Gofal’, 17 mlynedd yn ôl erbyn hyn, a’r ffordd y mae arferion gwaith wedi newid ers hynny, ond mae’r her yn dal yno. Mewn araith bellgyrhaeddol, galwodd am rywbeth tebyg i’r is-bwyllgor Cabinet a argymhellir gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, yn ogystal â thrafod cyrhaeddiad addysgol, sefydlogrwydd addysg a chyfranogiad plant mewn penderfyniadau ynglŷn â’u bywydau.
Siaradodd Lee Waters am y system addysg bellach. Soniodd am yr angen am gymorth penodol i blant sy’n derbyn gofal mewn addysg bellach, y chweched dosbarth ac addysg uwch. Rhoddodd enghreifftiau o arferion da, megis cael anogwyr dysgu dynodedig, ac roedd yn awyddus i wybod beth y gallem ei wneud yma i fynd ar drywydd yr amcanion hynny. Soniodd Mark Isherwood am y ffaith fod eiriolaeth yn anghyson ar draws Cymru a galwodd ar y Llywodraeth i ddweud wrthym beth yw’r amserlen ar gyfer gweithredu cyfeiriad cenedlaethol ar gyfer darparu eiriolaeth statudol.
Galwodd Llyr Gruffydd am ffocws diwyro ar ganlyniadau a gofynnodd a allai’r grŵp gorchwyl a gorffen sy’n edrych ar y canlyniadau i blant nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant edrych hefyd ar y canlyniadau i rai sy’n gadael gofal o fewn y grŵp penodol hwnnw.
Talodd Janet Finch-Saunders deyrnged i’r rhai sy’n gofalu am blant ac roedd yn awyddus i edrych ar effaith cyllid Llywodraeth Cymru, yn enwedig y grant amddifadedd disgyblion, ar y canlyniadau i blant mewn gofal. Pwysleisiodd hefyd yr angen am gymorth ar ôl mabwysiadu, a pha mor bwysig yw hynny. Roedd hyn yn rhywbeth a adlewyrchwyd hefyd yng nghyfraniad Suzy Davies: fod plant yn aml yn cael eu lleoli gyda rhieni, ac ar ôl eu lleoli, nid oes unman i droi. Felly, roedd hwnnw’n bwynt pwysig a wnaed. Yn ogystal, nododd bwynt pwysig iawn ynglŷn â’r effaith ar blant pan fo rhieni’n cael eu carcharu, yn enwedig pan fo’r fam yn cael ei charcharu, a pha mor aml y mae hynny’n arwain at roi plant mewn gofal a sut y mae’n rhaid i ni ymdrin â materion eithriadol o anodd o’r fath yn ofalus iawn—cyswllt gyda thadau yn benodol. Credaf fod hwnnw’n bwynt pwysig iawn.
Yna, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym am ei ymrwymiad i wneud rhywbeth ynglŷn â’r maes gwaith pwysig hwn. Dechreuodd drwy ddyfynnu o gyhoeddiad diweddar Sally Holland:
Rwyf am aros nes... y daw’r haul allan.
Credaf fod hynny’n cyfleu i’r dim yr hyn a deimlwn ynglŷn â’r pwnc penodol hwn—nad ydym am i’n plant mewn gofal deimlo bod popeth yn ansicr—a chredaf fod y dyfyniad hwnnw’n cyfleu popeth. Dywedodd fod yn rhaid i ni fuddsoddi yn ein plant a siaradodd am bwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rhoddodd ymrwymiad y byddem yn gweithio yn ystod y Cynulliad hwn, ac y byddai’r Llywodraeth yn gweithio’n ddiflino fel Llywodraeth, i wella ansawdd bywyd plant mewn gofal ac i sicrhau eu bod yn cael yr un gefnogaeth ac ymrwymiad â phlant sy’n byw gyda’u teuluoedd eu hunain. Felly, hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a chredaf mai cam cyntaf yw hwn yn yr holl waith y byddwn yn ei wneud yn y Cynulliad hwn dros y pum mlynedd nesaf.