4. 4. Dadl Plaid Cymru: Bil Cymru a’r System Etholiadol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:09, 29 Mehefin 2016

Cyn manylu ar hynny, mi wnaf i gyffwrdd â’r ddau fater arall. Y cyntaf ydy’r angen i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed gael y bleidlais. Mae hynny’n hollol angenrheidiol bellach. Roedd pobl ifanc yn ddig ac yn rhwystredig nad oedd eu llais yn cael ei glywed yn y refferendwm. Mae hefyd angen inni greu senedd i’r ifanc yng Nghymru. Cymru ydy’r unig wlad yn Ewrop sydd heb senedd o’r fath ac mae’n rhaid inni symud ymlaen efo hyn er mwyn tynnu pobl ifanc mewn i wleidyddiaeth. Yn amlwg, mi fyddai ei gwneud hi’n haws inni bleidleisio yn helpu, drwy gyflwyno pleidleisio ar-lein, er enghraifft, ac mi fyddai sicrhau mwy o addysg wleidyddol o help mawr hefyd.

Ond, i droi at y pwnc dan sylw, felly, yn etholiadau’r cynghorau sir yn 2012, dim ond 39 y cant o bobl bleidleisiodd. Ac yn etholiadau’r Cynulliad eleni, ychydig dros 45 y cant a aeth i bleidleisio. Mae’n amlwg bod rhai pobl yn meddwl nad oes pwrpas pleidleisio ac mai’r un rhai sy’n ennill bob tro. Mi wnaf i jest roi dwy enghraifft i chi. Yn 2012, yn ward Sgeti Abertawe, fe enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol bum sedd gydag ond 37.4 y cant o’r bleidlais. Cafodd Llafur 29.2 y cant a’r Ceidwadwyr 20 y cant ond, eto, yn methu ag ennill yr un sedd. Mewn enghraifft fwy enwog, efallai, yn 2008 yng Nghaerdydd, y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill y mwyafrif o seddi efo dim ond traean o’r pleidleisiau. Dros y blynyddoedd, mae pob plaid wedi elwa o’r system cyntaf heibio’r post ac mae pob plaid wedi dioddef o’i oherwydd o hefyd. Nid dyna sydd o dan sylw fan hyn.

Mae’r system STV yn cael ei defnyddio yn llwyddiannus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r Alban yn ei defnyddio mewn etholiadau lleol ac nid oes yna neb—neb—yn yr Alban yn cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Mae wedi gwella atebolrwydd ac wedi bywiogi gwleidyddiaeth. Nid fi sy’n dweud hyn ond arweinwyr Llafur yn Glasgow a Chaeredin. Mae Gogledd Iwerddon yn defnyddio STV ar gyfer ethol y Cynulliad ac mae’n amheus a fyddai’r ddwy ochr wedi gallu cytuno ar y broses heddwch hebddi hi. Mi oedd comisiwn Richard wedi argymell STV ar gyfer ein Cynulliad ni.

Mi wnaf i droi at rai o’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno i wrthwynebu STV. Y syniad bod cynrychiolaeth gyfrannol wedi’i gwrthod yn refferendwm 2011—wel, yn syml, nid system gyfrannol oedd dan sylw bryd hynny ac fe fydd rhai ohonom ni’n cofio’r ymgyrch ar y pryd: ‘No to AV, Yes to PR’.

Mae rhai’n dweud bod STV yn anodd ei deall. Wel, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl, ac mae hynny’n dipyn bach o insylt, a dweud y gwir, i bleidleiswyr yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n cael dim trafferth o gwbl yn deall y system yna.

Wedyn, mae’r syniad yma ei bod yn atal unrhyw blaid rhag ennill neu’n creu clymbleidiau drwy’r amser, wel, dyna fywyd weithiau. Mae hynny yn digwydd weithiau mewn democratiaeth. Mae’r modelu sydd wedi’i wneud o STV yn y gwledydd hyn yn dangos ei bod yn gallu creu llywodraethau un plaid os ydy’r pleidiau hynny yn gwneud yn dda mewn etholiad. Mae’r system bresennol yn creu sefyllfa o ddim rheolaeth glir, beth bynnag.

Mae yna lawer o fanteision o gyflwyno STV. Mewn etholiadau’r Cynulliad, byddai Aelodau rhanbarthol yn cael eu dewis yn uniongyrchol gan yr etholwyr yn hytrach na thrwy system rhestr bleidiol. Byddai’n creu gwleidydda mwy positif gan y byddai pleidiau gwleidyddol yn cystadlu am ail a thrydydd dewis yr etholwyr, a byddai hynny’n golygu bod angen ymgyrchu mewn ffordd aeddfed iawn a phositif.

Y rhai a fyddai ar eu hennill fyddai pob gwleidydd sy’n gweithio’n galed mewn modd positif. Y rhai a fyddai ar eu colled fyddai’r rhai sydd yn cymryd yr etholwyr yn ganiataol. Yn gyffredinol, felly, mi fyddai’n golygu y byddai gwleidyddiaeth Cymru ar ei hennill ac, yn y pen draw, mae hyn yn dda hefyd i bobl Cymru, a hynny ddylai fod ar ein meddyliau ni drwy’r amser. Diolch.