5. 5. Dadl Plaid Cymru: Y Cod Gweinidogol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:27, 29 Mehefin 2016

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i agor y ddadl, ac mi fyddai’n cau’r ddadl hefyd, ymhen ychydig. Wrth gwrs, mae’n cynnig ni yn galw arnom ni i gyd—bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu y dylai egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb, yn credu y dylai’r cod gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo, ac yn credu y dylai dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri’r cod. Am resymau amlwg, felly, mae gofynion penodol ar Weinidogion Cymru. Ac wrth i fi fynd ymlaen, gwnaf ddweud nawr y byddwn ni’n gwrthwynebu’r gwelliant cyntaf yn enw Jane Hutt, ond fe fyddwn yn derbyn gwelliannau 2 a 3, sydd yn ychwanegu at y pwyntiau sylfaenol yr ydym yn eu gwneud fan hyn ynglŷn â’r mater sydd gerbron.

Fel roeddwn i’n ei ddweud, mae yna ofynion penodol ar Weinidogion Cymru. Mae’n rhaid i bob un ohonynt, gan gynnwys is-Weinidogion, gydymffurfio efo’r cod gweinidogol, sy’n gosod safonau ymddygiad. Nawr, wrth gwrs, nid cyfle i ailymweld ag unrhyw ddigwyddiad penodol ydy pwrpas y ddadl yma y prynhawn yma, ond dadl er mwyn cryfhau tryloywder y broses, ac yn rhan o’r un fath o ddadl yr ydym newydd ei chlywed gan Sian Gwenllian a Simon ynglŷn â sut mae pobl yn gweld gwleidyddiaeth y dyddiau yma. Yn aml, fel gwleidyddion, rydym yn cael ein pardduo, mae pob math o gyhuddiadau yn ein herbyn—weithiau ar sail ymddygiad rhywun penodol—ond rwy’n credu bod hyn hefyd yn rhan o’r broses o sut rydym yn ymateb i’r bleidlais yna yn y refferendwm yr wythnos diwethaf. Mae’n rhaid inni ddangos i bobl ein bod ni’n berffaith onest ac agored a thryloyw ym mhob peth rydym yn ei wneud. A rhan o’r broses yna ydy’r cod gweinidogol yma sydd angen ei drawsffurfio.

Mae yna gefnogaeth drawsbleidiol wedi bod yn y gorffennol yn y Cynulliad yma i weld tryloywder cyflawn yn y broses, drwy gynnwys dyfarnwr annibynnol i mewn i’r system, fel bod gan y Prif Weinidog hawl i gyfeirio canfyddiad bod y cod wedi ei dramgwyddo i ddyfarnwr annibynnol, felly, a bydd yr unigolyn annibynnol yna dan sylw yn casglu’r dystiolaeth, ac yn cyflwyno adroddiad.

Nid ein hamcan ni yw bod y Prif Weinidog yn colli’r hawl i benodi a diswyddo aelodau o’i Gabinet, wrth gwrs. Nid dyna amcan y drafodaeth yma. Ond nid wyf yn cefnogi ei hawl i benderfynu pwy sy’n cael ei archwilio’n annibynnol, neu’n destun adroddiad annibynnol, os tramgwyddir y cod gweinidogol chwaith. Ac, wrth gwrs, dylai fod gan aelod o’r cyhoedd, neu Aelod o’r sefydliad hwn, hawl i gwyno yn uniongyrchol wrth gomisiynydd safonau, yn yr un modd ag y byddent yn ei wneud am Aelod Cynulliad o’r meinciau cefn, a dylai’r comisiynydd werthuso’r gŵyn honno, llunio adroddiad ac ymchwilio, yna darparu’r adroddiad ar gyfer y Prif Weinidog i wneud penderfyniad terfynol.

Fel rwyf wedi cyfeirio ato eisoes, nodwedd hollbwysig o bwrpas ein hamcanion ni y prynhawn yma, i drio edrych eto ar y broses archwilio yma, a gwneud yn siŵr bod y cod gweinidogol yn fwy agored, yw adeiladu ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth, sydd wedi cael ei sigo yn ddiweddar—ffydd sydd wedi ei ddifrodi ers sawl blwyddyn bellach. A gwelsom ni’r ymateb, fel mae Simon wedi ei ddadlau eisoes, yn y ddadl flaenorol.

Ac felly, yng nghanol y dicter, y casineb a’r anwireddau sydd wedi bod yn chwyrlio o gwmpas y lle yr wythnosau diwethaf yma, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, fel gwleidyddion, bod nifer fawr o’n pobl ni wedi eu dadrithio yn gyfan gwbl efo gwleidyddion a gwleidyddiaeth, yn mynnu nad oes ganddyn nhw ffydd ynom ni—dim hyder, a fawr ddim parch chwaith. Mae yna bob math o hanesion o gamymddwyn yn y gorffennol—nid wyf am fynd mewn i hynny rŵan—ond, ar ôl y bleidlais yna yr wythnos ddiwethaf, mae’n rhaid i ni ymateb yn gryf fel gwleidyddion, ac fel Cynulliad, i’r her sylweddol. Rhan o’r ymateb yna ydy dangos safonau uchel iawn o ymddygiad yn y fan hyn, sydd yn cael eu cloriannu mewn cod gweinidogol agored a thryloyw. Diolch yn fawr.