Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau ar y papur trefn, yn enw Paul Davies. Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Gallaf gofio’n iawn, yn y Cynulliad diwethaf, y dadleuon, y trafodaethau a’r cwestiynau i’r Prif Weinidog yr arferai cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol eu defnyddio i berswadio’r Prif Weinidog i gyflwyno cod gweinidogol gwirioneddol annibynnol, ac yn y pen draw, yn amlwg, i ddod â’r tryloywder hwnnw i’r broses lywodraethu, lle y cyfeirir Gweinidogion at god y gweinidogion. Mae’n ymddangos ychydig yn rhyfedd y gallwch fod yn bopeth i bawb, fel y mae’r cod presennol, gyda’r Prif Weinidog yn gymrodeddwr eithaf, yn datrys popeth, yn hytrach na bod unrhyw annibyniaeth wrth wraidd y broses.
Rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, pan fydd yn ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma, yn ymateb mewn modd cadarnhaol, gan nad yw’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno yma heddiw yn ddadleuon newydd. A gwn fod y Prif Weinidog, ddwy neu dair blynedd yn ôl, wedi gwneud y pwynt, ‘Wel, fe gawn adolygiad, fe edrychwn ar hyn, caf weld beth y gallaf ei wneud’. Wel, mae dwy flynedd wedi mynd; gobeithio bod ganddo atebion i rai o’r cwestiynau efallai a ofynnwyd yn ôl ym mis Gorffennaf 2014.
Yn benodol, rwy’n credu bod cyfle i edrych ar y ffordd y penodir y comisiynwyr—y comisiynydd plant, er enghraifft, a’r comisiynwyr eraill, sydd, dros amser, wedi dod o’r sefydliad hwn, ac wedi profi eu bod yn gwneud llawer o les yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Ac er tegwch i Lywodraeth Cymru, maent wedi ymgysylltu â’r pleidiau yma ac wedi ffurfio gweithgorau, yn amlwg, i wneud y penodiadau hynny. Ond ni ddylai hynny ddigwydd ar gais y Llywodraeth yn unig. Dylai’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd ysgogi’r weithdrefn ddethol a’r penodiadau, oherwydd byddwn yn awgrymu bod angen i’r comisiynwyr hynny weithredu yn enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach na Llywodraeth Cymru yn unig, yn amlwg.
Yn fy marn bersonol i, ac ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn ôl ym mis Mai, byddem wedi hoffi gweld gwrandawiadau’n cael eu cynnal ar benodi cynghorwyr arbennig hefyd, gan mai nodwedd o Lywodraeth fodern heddiw, unrhyw Lywodraeth, a bod yn deg, yw—. Rwy’n derbyn, ym mhob Llywodraeth, fod rôl cynghorwyr arbennig wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd—y 40 mlynedd diwethaf, yn arbennig, ers eu dechrau yn y 70au cynnar, i’r rôl fwy ffurfiol sydd ganddynt yn awr, ac maent yn chwarae rhan bwysig yn cynghori Gweinidogion y Llywodraeth sy’n cyflawni swyddogaeth Llywodraeth. Ac eto, mae’r rôl benodol honno, a’r penodiadau hynny, ar gais y Prif Weinidog yn llwyr. Unwaith eto, rwy’n credu y byddai taflu goleuni ar broses y rhan a chwaraeir gan gynghorwyr arbennig yn rhywbeth i’w groesawu, ac yn benodol, y ffordd y cânt eu penodi, yn enwedig eu haddasrwydd posibl ar gyfer ymgymryd â rolau pwysig o’r fath yn y Llywodraeth, er na fyddai yn y pen draw yn dileu gallu’r Prif Weinidog i gymeradwyo hynny o’r broses benodi, na gallu Prif Weinidog y DU er enghraifft yn San Steffan i wneud hynny. Nid wyf yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol ynglŷn â’r cynghorwyr arbennig penodol yma yng Nghaerdydd. Maent yn rhan bwysig o’r dirwedd wleidyddol a welwch ym mhob rhan o Lywodraeth, lle bynnag y maent yn bodoli ledled y Deyrnas Unedig ac yn wir, yn unrhyw un o wledydd democrataidd eraill y gorllewin. Ynghyd â phenodi comisiynwyr, rwy’n credu y byddai hynny’n dderbyniol iawn er mwyn cyflwyno tryloywder i weithdrefn dywyll iawn nad yw pobl y tu allan i’r sefydliad hwn yn gwybod llawer amdani.
Hoffwn hefyd gynnig yr ail welliant yn enw Paul Davies, sy’n cyfeirio’n benodol at ymrwymiad maniffesto’r Gweinidog addysg, a’r geiriad yn y maniffesto ynglŷn â chod y gweinidogion. Mae’n sôn, maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol—mae’n dweud,
‘nid yw’n rhyfedd fod pleidleiswyr yn colli ffydd pan all Gweinidogion Llafur, mae’n ymddangos, dorri’r Cod Gweinidogol ar eu mympwy’.
Darllenais hynny’n syth o’r maniffesto. Ac felly rwy’n meddwl, yn amlwg, gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan ffurfiol o’r Llywodraeth bellach, mae’n bwysig fod y Prif Weinidog yn rhoi sicrwydd, os nad unrhyw beth arall, nad yw Gweinidogion Llafur wedi bod yn torri cod y gweinidogion ar eu mympwy fel rwyf newydd ei ddarllen o’r maniffesto. Ac os yw’n wir fod hwnnw’n honiad cywir, pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i adfer hyder pobl fod datganiad o’r fath, gadewch i ni ddweud, wedi’i gyflwyno iddo’n fyrbwyll os nad oedd a wnelo â gwaith y Llywodraeth mewn unrhyw fodd? Ar ôl i’r Prif Weinidog gael dwy flynedd i feddwl sut y dylid datblygu cod y gweinidogion, dylai’r ddadl hon ddatblygu yn awr, gobeithio—oherwydd cafodd llawer o’r cwestiynau hyn eu gofyn gyntaf pan oedd rhaid i Alun Davies ymddiswyddo o’r Llywodraeth ym mis Gorffennaf 2014, a’u hateb yn deg hefyd, gallwn ychwanegu. Felly, gobeithio bod gan y Prif Weinidog yn awr, yn y ffolder sydd ganddo o’i flaen, yr atebion i’r arolwg a gyflawnodd bryd hynny a rhai o’r newidiadau, yn hytrach na sefyll a dweud, ‘Rydym yn cadw’r statws quo’, ac y gall oleuo’r Siambr ynghylch y newidiadau y bydd yn eu gwneud i god cyfredol y gweinidogion, i’w wneud yn fwy agored, i’w wneud yn fwy tryloyw, ac yn anad dim, i’r ymagwedd agored a thryloyw honno ymestyn ar draws Llywodraeth newydd Cymru yn y pumed Cynulliad yn ei chyfanrwydd.