5. 5. Dadl Plaid Cymru: Y Cod Gweinidogol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:45, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yr ateb yw ‘gallaf’ a do, fe wnaeth, fel y mae hi newydd ddweud wrthych. Gan fod yr holl Weinidogion wedi’u rhwymo gan god y gweinidogion, nid oes unrhyw fodd iddynt allu dewis a dethol, ac ni fu erioed. Bydd y cod hwnnw’n berthnasol i bawb ac mae’n hysbys beth yw’r canlyniadau os torrir y cod.

Wel, ni wnaf lawer o sylwadau ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod Neil McEvoy. Mae ei obsesiynau’n hysbys i’r Siambr hon. Mae ganddo ei gŵys ei hun y mae’n dymuno ei thorri. Nid oedd yn ddigon dewr i wneud unrhyw honiadau ac felly, nid yw ei sylwadau yn y Siambr hon yn haeddu ymateb.

Felly, o ran gwelliant 1, fel y dywedais, mae hynny’n rhywbeth—[Torri ar draws.] Rydych wedi cael eich cyfle i ddweud eich barn. Mae hwnnw’n rhywbeth rwyf eisoes wedi’i gynnig yn ffurfiol. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3, nac yn wir y cynnig ei hun heb ei ddiwygio.