5. 5. Dadl Plaid Cymru: Y Cod Gweinidogol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:46, 29 Mehefin 2016

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau. Jest i fynd yn ôl at bwynt ein dadl, wrth gwrs, mae yna sawl gwahanol egwyddor wedi llwyddo i gropian i mewn i’r ddadl yma, ond mi wnawn ni fynd yn ôl at y pwynt sylfaenol a oedd ynglŷn â’r cod gweinidogol. Rydym ni’n galw yn naturiol ar holl egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal. Mae pobl wedi dweud pethau neis am y safon yna. Rydym ni eisiau ei gweld hi’n cael ei chwblhau. Rydym eisiau gweld hefyd y cod gweinidogol yn cael ei osod gerbron y Cynulliad yma a chael ei gymeradwyo gan y Cynulliad yma, ac rydym hefyd yn galw am benodi dyfarnwr annibynnol i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri’r cod. Dyna, yn y bôn, ydy pwynt y ddadl yma, er mwyn ceisio argyhoeddi’r cyhoedd ein bod yn ymateb yn gadarn i beth ddigwyddodd yn yr etholiad yna, y refferendwm, yr wythnos diwethaf. Mae’n rhaid cael ymateb cryf a rhaid dangos ein bod ni fel gwleidyddion yn gallu sefyll lan am beth sydd yn iawn. Diolch yn fawr.