Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Efallai, gyda’ch caniatâd, y caf ymddiheuro i Sian Gwenllian, sy’n dal i fod yn y Siambr, am gael ei henw’n anghywir yn gynharach. Esgusodwch fi—mae’n flin iawn gennyf.
Mae angen i ansawdd aer fod yn flaenoriaeth uchel yn y pumed Cynulliad hwn. Nid yw ar hyn o bryd yn ymddangos fel cyfrifoldeb Cabinet penodol. Edrychais ar restr cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet ac nid yw yno, er gwaethaf hyd y rhestr. A chyn i mi ddisgyn yn ôl i bwll o hunanfodlonrwydd o ryw fath, ni chafodd llygredd aer lawer o sylw yn ystod ymgyrch etholiadol y Cynulliad, ac nid wyf yn credu iddo ymddangos yn benodol ym maniffesto unrhyw un o’r pleidiau. Felly, rwy’n meddwl ein bod i gyd yn yr un categori efallai o beidio â rhoi’r flaenoriaeth y mae’n ei haeddu i hyn. Ond mae llygredd aer yn allweddol i iechyd y cyhoedd ac mae’n her wirioneddol oherwydd er bod llawer o ddatblygiadau wedi’u gwneud ar ôl 1970, yn bennaf y newid o lo i nwy, rydym wedi colli tir ers canol y 2000au, wrth i ni weld y defnydd o ddiesel, yn arbennig, yn cynyddu o safbwynt traffig modur.
Yng Nghymru y ceir peth o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Yn ddiweddar, roedd Crymlyn yn y newyddion oherwydd bod ei lefelau llygredd yn uwch nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig ac eithrio Marylebone Road yn Llundain. Fel arfer, pe baem yn cael ein cymharu â Marylebone byddwn yn hapus, ond yn yr achos hwn roedd yn ddigalon iawn. A bellach mae gennym y fantais o ddatblygiadau ymchwil sy’n dangos y niwed a achosir gan lygryddion aer. Efallai ein bod mewn sefyllfa debyg i’r un roeddem ynddi flynyddoedd yn ôl gydag ysmygu goddefol. Yn wir, rwy’n meddwl bod llygredd aer, yn gyffredinol, yn fwy o risg yn ôl pob tebyg, ac amcangyfrifir y gellir priodoli dros 1,300 o farwolaethau bob blwyddyn mewn rhyw ffordd berthnasol i ansawdd aer gwael yng Nghymru. Felly, mae hynny’n arwyddocaol dros ben.
Mae llygredd aer yn deillio’n bennaf o weithgarwch dynol, drwy gerbydau, diwydiant ac amaethyddiaeth. Fodd bynnag, ychydig iawn o reolaeth sydd gan unigolion dros eu cysylltiad eu hunain ag ef. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un ohonoch erioed wedi gwylio fideo sy’n dangos llif llygredd aer a deunydd gronynnol, yn arbennig, o gwmpas ardaloedd ac adeiladau trefol. Mae ei faint a’i ddwysedd yn wirioneddol syfrdanol. Rhaid i mi ddweud, pan welais ef am y tro cyntaf, roeddwn wedi fy synnu’n fawr iawn. Nid oes rhaid i chi fod ar ben pibell wacáu i ddioddef y llygredd ac anadlu deunydd gronynnol yn ddwfn i’ch ysgyfaint.
Mae nifer yr achosion o lygredd aer yn uwch yng Nghymru nag yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Dylid dweud, fodd bynnag, ei fod yn is nag yn Lloegr. Caerdydd yw’r ardal fwyaf llygredig yng Nghymru gyda chrynodiad deunydd gronynnol o 9.5. Rwy’n newydd i’r briff hwn—peidiwch â gofyn i mi 9.5 mewn beth. [Chwerthin.] Efallai na ddylwn fod wedi cyfaddef hynny. [Chwerthin.] Mae hynny’n cymharu â chyfartaledd Cymru, sef crynodiad o 7.5. [Torri ar draws.] A, gyda rhyddhad mawr, rwyf am ildio i’r Aelod bonheddig dros Aberafan.