Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad a chyn i chi fynd ymlaen at gynllun datblygu Caerdydd eto, fe sonioch fod geiriau brwd gennyf fi, er enghraifft. Onid ydych yn cytuno bod yr awdurdod Llafur yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r Llywodraeth Lafur wedi cymryd camau i fonitro ansawdd aer ym Mhort Talbot er mwyn sicrhau bod cynllun ar waith i ni allu sicrhau bod hwnnw’n gostwng, a bod hynny’n weithredu cadarnhaol?