6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llygredd Aer

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:44, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Ar y mater penodol hwn o goed a llwyni ar hyd ymylon ffyrdd yn benodol, sylwais fod yna symudiad sylweddol tuag at osod ffensys ar hyd ffyrdd ar hyn o bryd i glustogi yn erbyn sŵn, yn hytrach na phlannu, a fyddai, yn amlwg, â’r fantais ychwanegol o leihau llygredd. A yw hyn yn rhywbeth y byddwch yn edrych arno, gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, i weld sut y gellid gwrthdroi hynny—y sefyllfa honno?