9. 8. Dadl Fer: Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain — Mwy na Rhaglen Adeiladu

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:11, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi’n gyntaf oll ddiolch i Rhianon am roi cyfle i mi siarad? Yn Nwyrain Abertawe, adeiladwyd dwy ysgol uwchradd newydd ac un ysgol gynradd newydd. Mae un ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu a gwnaed cais cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd newydd arall. Cafwyd adeiladau parhaol yn lle adeiladau dros dro. Mae’r ysgolion newydd hyn yn gwella’r amgylchedd addysgol ar gyfer eu disgyblion. Siaradais â phennaeth un o’r ysgolion hyn a ddywedodd nad oes pryder rhagor pan fydd hi’n bwrw glaw ynglŷn â lle bydd y dŵr yn dod i mewn. Maent yn gwella’r strydoedd yn yr ardal ac yn gwneud iddi edrych yn well ar gyfer y rhai sy’n byw o’i hamgylch. Maent yn darparu gwaith ac yn hwb i’r economi leol. Rwy’n cofio pan oedd adeiladu ysgolion newydd yn golygu ein bod yn disgwyl iddynt bara ymhell dros 400 o flynyddoedd. Gadewch i ni obeithio y bydd y cynllun hwn yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod.