Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i’r Aelod am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma. A gaf fi ei llongyfarch ar ei dadl fer gyntaf, ac yr araith a gyflwynodd mor huawdl?
Fel y clywsom gan Hannah Blythyn, yn wir, nid rhaglen adeiladu yn unig yw ysgolion, ond lle i ramant flodeuo hefyd, mae’n amlwg. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau eraill am eu cyfraniadau. Rwy’n siŵr y bydd eu hysgolion yn gwerthfawrogi’n fawr eu bod wedi cael eu henwi yma y prynhawn yma.
Nawr, y rhaglen ysgolion ac addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw’r buddsoddiad cyfalaf mwyaf yn ein seilwaith addysgol ers y 1960au. Fel y clywsom gan Rhianon, yn ystod pum mlynedd gyntaf y rhaglen hon bydd buddsoddiad o £1.4 biliwn wedi’i wneud i dalu am ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol yn elwa ar y buddsoddiad hwn yn ein hysgolion a’n colegau, gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu 50 y cant ohono. Ers ei lansio yn 2014, mae 105 o brosiectau wedi’u cymeradwyo o fewn y rhaglen. O’r rhain, mae 78 naill ai’n cael eu hadeiladu neu, rwy’n falch o ddweud, wedi’u cwblhau.
O’r cychwyn cyntaf, mae’r rhaglen hon yn ehangach nag adeiladu’n unig; fe’i cynlluniwyd i sicrhau buddsoddiad strategol ar draws ein cenedl a bydd hyn yn parhau. Mae’r rhaglen yn gyrru tri maes allweddol: lleihau adeiladau ysgolion mewn cyflwr gwael gan wneud ein stoc adeiladau yn fwy effeithlon i’w rhedeg; a lleihau nifer y lleoedd dros ben fel y gallwn ateb galw disgyblion lleol.
Mae’r rhaglen hefyd wedi’i chynllunio i roi sylw i anghenion ehangach dysgwyr, megis yr angen a’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac am addysg ffydd. Drwy gael yr ysgolion cywir yn y cyflwr cywir, gallwn greu sylfaen asedau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. A thrwy wneud yr asedau hyn yn fwy effeithlon ac addas ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, gallwn sicrhau y gall ein hathrawon ganolbwyntio nid ar fwcedi, Mike, ond ar addysgu, fel y gellir gwthio safonau addysgol yn eu hysgolion yn eu blaen ac i fyny.
Yn olaf, drwy wneud yn siŵr fod ein hysgolion o’r maint cywir ac yn y lle iawn, gallwn sicrhau ein bod yn ateb galw disgyblion yn awr ac yn y dyfodol. Mae’r rhaglen hon yn symud ymlaen, a hynny’n bennaf, fel y nododd Huw Irranca-Davies, o ganlyniad i natur arloesol a chydweithredol y buddsoddiad hwn. Yn wir, rydym yn gweithio ar sail cydadeiladu, sy’n arwain at bartneriaethau cryf rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol unigol ac eraill ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn parhau, ond hoffwn weld y rhaglen yn cyflymu. Byddaf yn gofyn i swyddogion, ac yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i gyflawni hynny.
Nid ymwneud â darparu adeiladau yn unig y mae’r buddsoddiad hwn, fodd bynnag. Rydym yn awyddus i hybu gwerth go iawn drwy’r rhaglen, gan sicrhau ein bod yn darparu amgylcheddau sy’n ysbrydoli ac yn gosteffeithiol. Hyd yma, cwblhawyd 41 o brosiectau ac mae’r rhain yn cynnwys cyfleusterau newydd modern, megis y rhai yn Ysgol Gymunedol Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf ac Ysgol Uwchradd y Rhyl yn Sir Ddinbych. Gyda’i gilydd, mae’r ysgolion hyn yn darparu lleoedd ar gyfer 2,800 o ddisgyblion. Fodd bynnag, mae’r buddsoddiad hwn yn ymwneud â mwy na dysgwyr; mae hefyd yn ymwneud ag ysgogi gwerth i’r gymuned ehangach o amgylch ein hysgolion a’n colegau—er enghraifft, drwy ddarparu cyfleusterau ychwanegol drwy ein hysgolion i’r ysgol a’r cyhoedd allu eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth feithrin, ystafelloedd cymunedol, cyfleusterau hamdden megis caeau 3G a 4G newydd, ac o wneud hynny, mae’n cysylltu â’n dyheadau sy’n deillio o’n Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Hefyd ni ddylem anwybyddu’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sy’n deillio o fuddsoddiadau cyfalaf o’r math hwn. Drwy ein defnydd o fframweithiau caffael rhanbarthol, rydym yn creu buddion cymunedol megis hyfforddiant, cyfleoedd prentisiaeth, ymwneud ysgol mewn pynciau STEM a chreu swyddi. Rydym hefyd yn gweld manteision enfawr i’r gadwyn gyflenwi leol, wrth weld ein buddsoddiad yn darparu swyddi a thwf ar gyfer pobl Cymru.
Mae’r rhaglen hyd yn hyn wedi cael cefnogaeth ysgolion sy’n ateb gofynion lleol am ddarpariaeth addysgol, megis Ysgol Bro Teifi, yr ysgol newydd 3-19 oed yn Llandysul, Ysgol Hafod Lon, sy’n darparu cyfleusterau anghenion arbennig yng Ngwynedd, lleoedd cynradd yn ein prifddinas yma yng Nghaerdydd a buddsoddiad mewn darpariaeth uwchradd Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.
Ar hyn o bryd mae gennym nifer o gynlluniau mawr yn cael eu hadeiladu, ac rwyf wedi gweld cynnydd Ysgol Uwchradd newydd Islwyn sy’n werth £25.5 miliwn, ac sy’n mynd i ddarparu lleoedd ar gyfer 1,100 o ddisgyblion yng Nghaerffili, Ysgol Uwchradd y Dwyrain yng Nghaerdydd ar gyfer 1,200 o ddisgyblion ac ysgol gynradd Cyffordd Llandudno yng Nghonwy, sydd i gyd yn enghreifftiau ardderchog o’r hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer disgyblion, y staff a’r gymuned ehangach.
Ond nid yw dysgu ôl-16 wedi cael ei anghofio. Maent hwy hefyd wedi bod yn rhan bwysig o’r prosiect hwn, gyda buddsoddiad yng nghampws Coleg Caerdydd a’r Fro yng Nghaerdydd sy’n werth £40 miliwn a chanolfan ôl-16 gyda Choleg Cambria yn Sir y Fflint.
Rhagwelir y bydd cyflwyno’r rhaglen fuddsoddi strategol bwysig hon yn rhedeg dros nifer o fandiau buddsoddi. Mae ein rhaglen gyfredol gwerth £1.4 biliwn yn rhedeg tan 2019 ac mae fy swyddogion yn awr yn gweithio ar ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi pellach y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw. Os bydd y rhai a ymgyrchodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cadw eu haddewidion, ni ddylai fod unrhyw effaith negyddol ar y rhaglen hon.
Mae’r buddsoddiad mawr hwn yn ein hysgolion a’n colegau er budd cenedlaethau o ddysgwyr yng Nghymru yn y dyfodol yn llawer mwy na rhaglen adeiladu. Mae’n rhan o ymagwedd gyfannol ehangach y Llywodraeth hon ar draws addysg, adfywio a chyflogaeth. Bydd ein hysgolion a’u cymunedau ehangach, os gallwn barhau i gyflawni hyn, yn dod i berthyn i’r unfed ganrif ar hugain go iawn. Diolch.