1. Datganiad gan y Llywydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:00 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:00, 6 Gorffennaf 2016

Cyn inni gychwyn ar y busnes ar yr agenda, rwyf am gymryd y cyfle i ddymuno’n dda i’n tîm pêl-droed ni heno yn erbyn Portiwgal. [Cymeradwyaeth.] Roedd buddugoliaeth y tîm yn erbyn Gwlad Belg yn wefreiddiol ac yn ddigwyddiad gwirioneddol bwysig yn hanes diwylliannol a chwaraeon Cymru. Fe ddaeth geiriau’r bardd Waldo yn wir:

‘Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain’.

Rydym hefyd yn llongyfarch y cefnogwyr. Maent wedi bod yn llysgenhadon gwych i ni fel cenedl. Rydym yn diolch i’r hyfforddwyr, y chwaraewyr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru am ein herio ni i freuddwydio a dangos mai gorau chwarae yw cyd-chwarae.

At this point, I was tempted to lead us all in a rendition of ‘Don’t take me home, please don’t take me home, I just don’t want to go to work’, but I had no confidence in your ability to sing in harmony. [Laughter.] I have far greater confidence in the ability of the Welsh team to win tonight. On behalf of us all, I wish Chris Coleman and his players all the very best for tonight and for Sunday.

Pob lwc, Gymru. [Cymeradwyaeth.]