2. 1. Dadl ar Araith y Frenhines

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:20 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:20, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’n gwybod beth yw fy marn. Mae’n anochel y daw amser pan fydd yna awdurdodaeth benodol—awdurdodaeth ar wahân o bosibl. Dyna yw barn Llywodraeth Cymru.

Mae plismona, yn yr un modd, yn rhywbeth nad yw’n gwneud unrhyw synnwyr peidio â’i ddatganoli. Fel arall, byddwn mewn sefyllfa yn y pen draw lle bydd, er enghraifft, deddfwriaeth trefn gyhoeddus wedi ei datganoli i raddau helaeth a bydd yr heddlu yn plismona deddfau yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith na fyddant yn gyfrifol yng Nghymru am blismona’r deddfau hynny. Mae yna anghysondebau y bydd angen ymdrin â hwy yn y blynyddoedd i ddod.

Rwy’n gwybod na fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno â mi ynglŷn â’r awdurdodaeth a phlismona, ond yn anffodus, mae’n golygu na all y Bil hwn—er ei fod yn well na’r Bil blaenorol—fod yn setliad parhaol i Gymru, oherwydd y rhesymau hynny a hefyd oherwydd y ffaith ein bod yn gwybod, yn dilyn y refferendwm, fod y sefyllfa gyfansoddiadol yn y DU yn eithaf twymynnol ar hyn o bryd ac nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd i’r DU ei hun dros y tair blynedd nesaf, a bydd angen ymdrin â hyn yn ofalus os yw’r DU am oroesi.

Credaf y bydd angen trafod rhai meysydd ymhellach, fodd bynnag. Er enghraifft, pam na fyddai’r ardoll seilwaith cymunedol yn cael ei datganoli? Treth gynllunio ydyw, i bob pwrpas. Mae trethiant yn cael ei ddatganoli i’r Cynulliad hwn. Mae’n fy nharo i’n anghyson na fyddai’r ardoll seilwaith cymunedol, felly, yn cael ei datganoli.

Soniodd hefyd am y Bil cynllunio, lle—oes—mae gennym ddiddordeb yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, nid o ddewis, ond oherwydd bod rhai ohonom yn credu y dylai’r hyn y mae’r comisiwn hwnnw’n ei wneud gael ei ddatganoli i Gymru beth bynnag mewn gwirionedd. Felly, nid oes gennym unrhyw ddewis ond bod yn rhan o’r hyn a elwir, a hynny’n anghywir, yn ‘Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol’, gan ei fod yn berthnasol i Gymru ac i Loegr mewn rhai meysydd.

Yn dilyn datganoli’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus, mae hefyd yn ymddangos yn rhyfedd nad yw trwyddedu wedi’i ddatganoli. O gofio ein bod yn gwybod bod alcohol yn achosi llawer o anhrefn cyhoeddus, ar y naill law byddwn yn gallu creu troseddau neu ddiwygio’r gyfraith o ran trefn gyhoeddus, ond ni fyddwn yn gallu ymdrin ag un o brif achosion anhrefn gyhoeddus. Unwaith eto, y ddadl a ddefnyddiwyd gyda mi yn y blynyddoedd a fu oedd bod trwyddedu yn rhan annatod o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus o dan gyfraith droseddol, a fydd bellach yn cael ei datganoli i raddau helaeth. Felly, pam cadw trwyddedu fel eithriad?

Mae gennym gytundeb mewn egwyddor ar ddatganoli tâl ac amodau athrawon—mae’n werth ailbwysleisio hynny. Bydd angen cynnal trafodaethau pellach, wrth gwrs, o ran y math o drosglwyddiad ariannol fydd ei angen er mwyn i hynny gael ei roi ar waith yng Nghymru.

Croesawaf yr hyn a ddywedodd am y porthladdoedd. Ni allaf weld pam y dylai Aberdaugleddau ddod yn borthladd cytundeb, i bob pwrpas, yn yr un modd ag y digwyddodd i ddau borthladd yn Iwerddon pan sefydlwyd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Byddwn yn croesawu eglurhad pellach ynglŷn â pham y dylai porthladd Aberdaugleddau gael ei drin yn wahanol i bob porthladd arall yng Nghymru gyfan.

A gaf fi groesawu, o leiaf, y ffaith fod gweithgor cyfiawnder yng Nghymru wedi’i sefydlu? Mae’n rhaid i mi ddweud wrtho nad wyf fi na’r Gweinidogion wedi derbyn gwahoddiad eto i gymryd rhan yn y grŵp hwnnw, ond rwy’n croesawu’r hyn y mae wedi’i ddweud heddiw—y bydd cyfranogiad gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld cyfranogiad gweinidogol yn rhan o hynny.

O ran y sefyllfa treth incwm, nid wyf yn anghytuno â’r hyn y mae wedi’i ddweud am y refferendwm, ond mae’n rhaid iddo fod yn ymwybodol—mae ef a minnau wedi trafod hyn eisoes—na allwn argymell y dylai’r Cynulliad roi ei gydsyniad deddfwriaethol i Fil Cymru oni bai bod cytundeb ar fframwaith cyllidol ymlaen llaw. Fel y mae’r Bil ar hyn o bryd, gall y Trysorlys orfodi setliad ariannol ar bobl Cymru heb gytundeb y lle hwn, ac mae hynny’n anghywir mewn egwyddor—nid yw’n berthnasol yn yr Alban. Felly, rwy’n credu y bydd cytundeb ar fframwaith cyllidol yn gwbl allweddol i gytundeb y corff hwn mewn perthynas â datganoli treth incwm. Fel rwy’n dweud, nid wyf yn ei erbyn mewn egwyddor, ond mae’r ymarferol yn bwysig i wneud yn siŵr na fydd Cymru ar ei cholled.

Gan ymdrin yn fyr â rhai o’r materion eraill a godwyd ganddo, mae’n gywir i dynnu sylw at yr heriau sy’n bodoli mewn perthynas â chanlyniad refferendwm yr UE. Cytunaf ag ef fod rhoi hyder i fusnesau, a dweud wrth fusnesau fod Cymru ar agor i fusnes, yn hynod o bwysig. Rydym yn gwybod bod busnesau’n casáu ansicrwydd ac yn anffodus, mae’r ansicrwydd hwnnw’n dal i fodoli. Rwy’n derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud, mai cyfrifoldeb y ddwy Lywodraeth yw lleddfu’r ansicrwydd hwnnw dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Cytunaf yn gryf â’r hyn a ddywedodd am gydlyniant cymunedol. Clywais straeon yr wythnos ddiwethaf, pan euthum i Lanelli ac Abertawe, am bobl sy’n teimlo dan fygythiad oherwydd dehongliad lleiafrif bach o ganlyniad y refferendwm. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud yn siŵr fod ‘genie’ rhagfarn a ryddhawyd o’r botel yn cael ei roi yn ôl yn gadarn yn y botel yn y dyfodol.

A gaf fi ddweud wrtho, o ran trafodaethau’r UE, mae’n hynod o bwysig fod pob gweinyddiaeth yn y DU yn rhan o unrhyw drafodaeth? Yn fy marn i, dylai unrhyw setliad, unrhyw gytundeb, gael ei gadarnhau gan bob un o’r pedair senedd er mwyn cael cefnogaeth ar draws y DU. Ceir rhai meysydd, wrth gwrs, fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, lle nad oes gan Senedd y DU unrhyw rôl o gwbl bron, ac felly mae’n gwbl briodol, yn y meysydd hynny, ac yn wir yn ehangach, y dylid cael cadarnhad y lle hwn a’r seneddau datganoledig eraill er mwyn i’r cytundeb gael ei dderbyn yn llawn ar draws y DU gyfan.

Yn olaf, rwyf am sôn am y ddeddf hawliau dynol. ‘Pob lwc gyda honno’ a ddywedaf fi wrtho, oherwydd siaradais â’r grŵp oedd yn edrych ar greu deddf hawliau dynol a gwrandewais yn ofalus ar yr hyn y mae Gweinidogion wedi’i ddweud am y ddeddf hawliau dynol, ac i mi nid yw’n ychwanegu unrhyw beth o gwbl at Ddeddf Hawliau Dynol 1998 sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, arhoswn i weld beth y bydd deddf hawliau dynol o’r fath yn ei ddweud y tu hwnt i’r rhethreg a beth y bydd yn ei olygu’n benodol i’r gwledydd datganoledig hefyd. Hyd y gwelaf i, nid wyf yn siŵr beth y mae’n ei ychwanegu at y ddeddfwriaeth sydd gennym eisoes. Ond cawn weld sut y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf, ac yn amlwg bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru yn ogystal â’r lle hwn roi eu barn ynglŷn â sut beth fydd y ddeddf hawliau dynol.

Bydd yna feysydd eraill, Biliau eraill, wrth gwrs, lle bydd trafodaethau’n cael eu cynnal wrth i’r Biliau hynny symud ymlaen drwy’r Senedd. Diau y bydd Bil Cymru yn un ohonynt wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Ond fel y dywedais yn ystod y ddadl heddiw, mae’n gyfle i’r Aelodau fynegi eu barn, a bydd arweinydd y tŷ yn ymateb yn ffurfiol ar ran y Llywodraeth ar ddiwedd y ddadl.