Part of the debate – Senedd Cymru am 1:27 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf welliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas.
Yn dilyn refferendwm yr UE, mae Cymru ar lefel y DU yn nwylo Llywodraeth Geidwadol ranedig iawn. Yn wir, mae sefydliad San Steffan yn ei gyfanrwydd wedi’i rwygo gan ymladd mewnol, gan gynnwys gwrthblaid swyddogol y DU, y Blaid Lafur. Mae i hyn gyfres o oblygiadau i Gymru, gan fod araith 2016 yn cydnabod y parhad yn nhaith Bil Cymru, wrth gwrs, sy’n nodi’r newidiadau tymor byr nesaf i’r cyfansoddiad Cymreig.
Lywydd, fel rhan o fy ymateb i ganlyniad refferendwm yr UE, dywedais y byddai Plaid Cymru yn gwneud cynnig i gynyddu pwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad Cenedlaethol. Os mai pleidlais yn erbyn y canfyddiad o reolaeth o bell neu reolaeth ganoledig oedd canlyniad refferendwm yr UE, yna nid oedd yn bleidlais dros ganoli mwy o bwerau yn San Steffan. Os mai pleidlais i reoli bywydau pobl oedd canlyniad refferendwm yr UE, yna nid oedd yn bleidlais dros wneud mwy o ddeddfau neu benderfyniadau Cymreig y tu allan i Gymru. Mae canlyniad y refferendwm, mewn gwirionedd, yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy hanfodol fod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu grymuso i warchod buddiannau ein gwlad, yn unol â’r modd y penderfynwyd ar y buddiannau hynny mewn etholiadau cyffredinol yng Nghymru.
Ni fu unrhyw ymdrechion arwyddocaol hyd yn hyn i gysylltu canlyniad refferendwm yr UE â lleihad ym mhwerau’r Cynulliad Cenedlaethol neu â saib yn natblygiad Cymru fel gwlad hunanlywodraethol, ond rhaid i ni i gyd fod yn effro ac yn wyliadwrus rhag i ymdrechion o’r fath ddod yn amlwg yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni fynd ati’n rhagweithiol i gyflwyno’r achos dros sicrhau bod mwy byth o benderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yma yn y wlad hon. A phan fydd y pwerau a’r cyfrifoldebau ychwanegol hynny yn eu lle, dylem ehangu’r drafodaeth ynglŷn â’u defnydd i gynnwys y cymunedau hynny nad oes ganddynt gysylltiad da â’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y Siambr hon ar hyn o bryd, gan gynnwys yr ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl yn teimlo wedi’u difreinio a’u dadrithio gan wleidyddiaeth ddemocrataidd.
Mae ein hail welliant yn ymwneud â rheoliadau’r UE yn fwy uniongyrchol, a bydd y rheini’n cael sylw pellach gan siaradwyr eraill.
Lywydd, mae holl ddyfodol y Deyrnas Unedig bellach ynghanol y pair. Dylai fod trafodaeth genedlaethol lawn am opsiynau i ni ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, os mai dyna fydd pobl ei eisiau, gan dderbyn, wrth gwrs, y byddai hyn yn gofyn i’r bobl yma wneud dewis newydd, ffres. Ond Bil Cymru yw’r cyfrwng priodol ar gyfer y newidiadau uniongyrchol hynny yn y tymor byr a allai godi ein gwlad i lefel o gymhwysedd datganoledig sy’n debyg i ddeddfwrfeydd datganoledig eraill yn y DU. A hoffwn ganolbwyntio yn awr ar y mesurau tymor byr hynny.
Mae Plaid Cymru yn gresynu nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn cyrraedd yr un lefel â phwerau tebyg megis y rhai sydd ar gael, neu’n cael eu cynnig, i’r Alban. Mae gennym sefyllfa arall eto fyth lle mae Bil Cymru wedi’i oddiweddyd gan ddigwyddiadau. Mae dull Llywodraeth y DU yn rhy gul, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn methu â mynychu’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwy’n rhannu pryder Cadeirydd y pwyllgor hwnnw, sy’n hollol iawn i nodi y gallai Bil Cymru symud y setliad datganoli yn ei ôl mewn rhai agweddau. Mae hefyd yn gywir i geisio cynnwys cymdeithas ehangach Cymru yng ngwaith craffu’r pwyllgor ar y Bil, ond mae’r gwaith craffu wedi cael ei danseilio gan y ffaith nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn bresennol yn y pwyllgor hwnnw.
Ar y cam hwn, ni allwn ond dyfalu sut y bydd Bil Cymru gwan yn effeithio ar archwaeth pobl yn y dyfodol am fwy o hunanlywodraeth. Ond ni fydd y Bil Cymru cyfredol, mewn unrhyw ffordd, yn rhoi diwedd ar y ddadl gyfansoddiadol yn y wlad hon, ac yn hynny o beth, bydd yn methu â bodloni amcanion Llywodraeth y DU.