2. 1. Dadl ar Araith y Frenhines

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:45, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod. A gaf fi fynd ag ef yn ôl ychydig o funudau pan soniodd am y cyllid gwaelodol, sy’n gytundeb gwleidyddol ac nid yw mewn deddfwriaeth fel y cyfryw? Ond wrth gwrs, cyn i ni dderbyn Bil Cymru i’w gymeradwyo’n derfynol yma a phasio’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a yw’n cytuno bod angen i ni weld fframwaith cyllidol ar waith—cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan—sy’n sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol ar ein perthynas ariannol os ydym yn cael datganoli wedyn ac yn datganoli trethiant ymhellach?