Part of the debate – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf i hefyd yn croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol yma, o bosibl am y tro olaf cyn iddo ddychwelyd i ebargofiant San Steffan. Gwnaeth ei orau i gyflwyno Araith y Frenhines fel rhywbeth arwyddocaol, er bod pawb yn gwybod, mewn gwirionedd, mai cybolfa o filiau cymharol ddibwys a di-nod ydyw, am fod y Prif Weinidog yn awyddus i gael gwared ar bopeth a allai fod yn ddadleuol cyn y refferendwm. Roedd y sylwebaeth ar y pryd bron yn unffurf yn y modd yr oedd yn fflangellu Araith y Frenhines. Disgrifiwyd yr araith gan wefan ITV fel stwff sy’n tynnu sylw ond sy’n hollol annadleuol: pwy allai wrthwynebu meysydd gofod, rheolaeth dynnach ar ddronau neu fand eang cyflymach?
Wel, rwy’n siŵr ein bod i gyd o blaid band eang cyflymach o ystyried bod y rhan fwyaf o Gymru yn bwrw ymlaen ar gyflymder malwen yn hyn o beth. Ond nid yw meysydd gofod a dronau, ar wahân i rai o’r Aelodau yn y tŷ hwn, yn golygu llawer o ddim yn nychymyg pobl mewn gwirionedd. Dywedodd ‘The Daily Telegraph’ am Araith y Frenhines:
Gellid maddau i’r Ceidwadwyr traddodiadol a oedd yn llenwi Tŷ’r Arglwyddi ar gyfer Araith y Frenhines... am feddwl eu bod yn yr ystafell anghywir... I rai Torïaid, bydd yn swnio fel rhaglen y gallai’r llywodraeth Lafur ddiwethaf fod wedi’i chreu.
Cyhuddodd Iain Duncan Smith y Prif Weinidog o osgoi dadl yn fwriadol cyn y bleidlais ar aelodaeth o’r UE, gan ddweud:
Wrth i’r Llywodraeth fynd ar drywydd chwyrligwgan y refferendwm, mae llawer o’r Ceidwadwyr yn gynyddol bryderus eu bod wedi gwanhau neu gael gwared ar elfennau allweddol o’u rhaglen ddeddfwriaethol.
Wel, nid wyf am ymyrryd ymhellach yn y galar preifat hwnnw. Ond dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yn ei ragymadrodd i’w araith heddiw, ac mae hyn yn peri cryn syndod, ac ar hyn rwy’n cytuno gydag arweinydd yr wrthblaid, y bydd yr oedi cyn cychwyn y broses o drafod telerau erthygl 50 rywsut yn ennyn hyder ac yn dod â mwy o sefydlogrwydd i’r broses. Dyna’r peth olaf y bydd hyn yn ei wneud. Mewn gwirionedd, mae angen i ni fwrw ymlaen â’r broses hon er mwyn datrys yr ansicrwydd sy’n bodoli. A minnau wedi bod yn aelod o Gyngor y Gweinidogion—Gweinidog y farchnad fewnol—am ddwy flynedd a hanner, fy mhrofiad i yw bod cyfraith Parkinson yn sicr yn berthnasol ac mae’r gwaith yn ehangu i lenwi’r amser sydd ar gael. Felly, po fyrraf yw’r amserlen, y mwyaf rydym yn debygol o’i gyflawni. Yn bersonol nid wyf yn gweld pa mor anodd yw llunio trefniadau olynydd priodol i’n perthynas fasnachu gyda’r UE. Dros 50 mlynedd, dau gytundeb masnach rydd priodol yn unig y mae’r UE wedi llwyddo i’w negodi—gyda Mecsico a De Korea. Ni allaf weld pam na allwn ddefnyddio’r rheini fel templedi ar gyfer ein perthynas ein hunain â’r UE yn y dyfodol. Mae llawer o sôn wedi bod yn y lle hwn am y gwahanol fodelau sy’n bodoli ar gyfer cysylltiadau—model Norwy neu beth bynnag; mae’r rhain i gyd yn gwbl amherthnasol gan nad oes unrhyw ffordd, yn dilyn canlyniad y refferendwm, y gallem dderbyn llafur yn symud yn rhydd o fewn yr UE. Dyna holl bwynt y refferendwm—ni fyddem byth wedi cael un oni bai am y pryder ynghylch natur ddireolaeth ein ffiniau. A bydd unrhyw beth sy’n mynd i’n hatal rhag cael rheolaeth lwyr ar ein polisi mewnfudo ein hunain yn cael ei wrthod gan y cyhoedd yn gyffredinol.
Unwaith eto, rwy’n cytuno, yn ysbryd cytundeb trawsbleidiol, â’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei sylwadau—ac yn wir, arweinydd yr wrthblaid—am gytundeb ar fframwaith cyllidol o gwmpas Bil Cymru. Ni allaf weld sut y gallai fod yn dderbyniol o gwbl i bobl Cymru gael y Bil hwn wedi’i orfodi arnom oni bai ein bod yn gallu bod yn gwbl sicr, a’i fod yno mewn ffeithiau ariannol plaen, na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd ar ôl i’r Bil gael ei basio na chyn hynny. Ac yn hynny o beth, wrth gwrs, mae compact yr UE yn ddarostyngedig i’r un alwad fod yn rhaid i bob ceiniog y mae’r UE yn ei gwario yng Nghymru ar hyn o bryd ddod i Gymru ar ôl i ni adael yr UE.
Felly, o ganlyniad, nid yw Araith y Frenhines eleni ond yn mynd â ni rywfaint o’r ffordd, ond nid yn bell iawn mewn gwirionedd. Ni allaf ddeall o gwbl pam y dylai rhywbeth fel y dreth ar siwgr, a nodwyd yn araith arweinydd yr wrthblaid, gael ei hystyried fel cam ymlaen; mae’n fil hurt, mewn gwirionedd, pan edrychwch ar natur y dreth. Yn gyntaf oll, mae wedi’i dargedu’n wael gan fod suddoedd ffrwythau a diodydd llaeth yn cael eu heithrio, felly mae hynny’n golygu bod rhai o’r diodydd â’r mwyaf o siwgr ar y farchnad yn osgoi’r ardoll arfaethedig mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae siocled poeth mawr iawn o Starbucks yn cynnwys 15 llwy de o siwgr, dwbl yr uchafswm dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolyn, ond am ei bod yn ddiod laeth caiff ei heithrio rhag yr ardoll. A gellid dweud yr un peth am fathau eraill o ysgytlaeth, coffi a diodydd iogwrt.