2. 1. Dadl ar Araith y Frenhines

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:25, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Croesawaf yr Ysgrifennydd Gwladol yma heddiw, a byddwn o ddifrif yn ei groesawu yn ôl eto fel y gall y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol rwy’n Gadeirydd arno ymgysylltu’n adeiladol i graffu ac yn wir ei helpu i wella Bil Cymru. Nawr, efallai nad ydynt yn trafod hyn hyd syrffed yn y dafarn, ond rwy’n fwy na pharod i brynu peint iddo yn y Mountain Hare ym Mrynna os yw’n derbyn ein gwahoddiad; efallai dau beint hyd yn oed, Ysgrifennydd Gwladol, ac nid wyf erioed wedi prynu dau beint i neb. [Torri ar draws.] Nid i bob un ohonoch. [Chwerthin.]

Nid oes yr un ohonom, yn sicr, am weld Bil sydd yn wir yn sicrhau camau ymlaen i Gymru, ond sydd â chanlyniadau anfwriadol a fyddai’n peri pryder ac a allai ddadwneud y setliad datganoli hyd yn oed. Mae ein pwyllgor—hoffwn dalu teyrnged yma i gyn-aelodau’r pwyllgor a’r aelodau presennol, a’r cyn-Gadeiryddion hefyd—wedi bod yn casglu llawer o dystiolaeth gan dystion arbenigol, a byddwn yn parhau i dderbyn tystiolaeth drwy gydol yr haf. Cafwyd croeso gofalus i rai o’r newidiadau a wnaed i’r Bil drafft gwreiddiol, a gafodd ei wfftio gan bawb, ond mae rhai pryderon cyffredin a difrifol eisoes yn dod yn amlwg.

Er gwaethaf sicrwydd pendant gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae tystion i’r pwyllgor wedi mynegi pryderon y gallai’r asesiadau newydd o’r effaith ar gyfiawnder, o’u defnyddio ar y cyd â phwerau sydd ar gael yn barod i’r Ysgrifennydd Gwladol, gael eu defnyddio er mwyn rhoi feto ar ddeddfwriaeth a wneir yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hyn yn codi’r posibilrwydd fod y ddarpariaeth hon yn ymestyn neu o leiaf yn atgyfnerthu gallu Llywodraeth y DU i lesteirio ewyllys Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Awgrymwyd nad yw’r asesiadau hyn o’r effaith ar gyfiawnder yn cyflawni unrhyw ddiben defnyddiol, neu y gallent fod yn niweidiol hyd yn oed, i fuddiannau Cymru, ac felly cynigir y dylid cael gwared arnynt.

Mae’r Bil yn argymell ein bod yn symud tuag at fodel cadw pwerau, o fath tebyg i’r un a ddefnyddir yn yr Alban, er nad yn union yr un fath, lle y gallai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar unrhyw fater nad yw wedi’i gadw yn ôl yn benodol i Senedd y DU. Beirniadwyd y Bil drafft gwreiddiol yn llym am gynnwys rhestr mor eang o gymalau cadw nes ei fod, yn amlwg, yn lleihau gallu Cymru i ddeddfu ar lawer o faterion. Ond hyd yn oed yn awr, mae’r tystion yn dweud wrthym nad yw ysbryd llawn y model cadw pwerau yn hunanamlwg, ac mae pryderon eang y gallai rhai o’r pwerau a gedwir yn ôl ddechrau dadwneud y broses ddatganoli. Ni fyddai hynny’n dderbyniol, Ysgrifennydd Gwladol, felly bydd yn rhaid ystyried a gwneud newidiadau.

Er mwyn lleihau pryderon ynglŷn â sut i ddelio ag esblygiad parhaus corff o gyfreithiau a wnaed yng Nghymru neu sy’n berthnasol i Gymru, a goblygiadau hyn ar gyfer awdurdodaeth benodol, er nad o reidrwydd ar wahân, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi sefydlu’r gweithgor ar gyfiawnder yng Nghymru. Yn wir, byddai’r dull hwn yn cael ei groesawu, wrth gwrs. Ond mae ein pwyllgor yn clywed nad yw Prif Weinidog Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cael gwahoddiad i bennu’r cylch gorchwyl ac nad ydynt wedi cael eu gwahodd yn ffurfiol eto i gymryd rhan, ac i Weinidogion y DU yn unig y bydd y gweithgor yn adrodd ac nid i Lywodraeth Cymru. Eto i gyd, gyda pheth ailfeddwl, byddwn yn dweud wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru y gallai grŵp sefydlog sy’n ystyried y twf yn neddfwriaeth Cymru dros gyfnod o amser fod â gwerth gwirioneddol, ar yr amod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan uniongyrchol.

Mae mwy, wrth gwrs, ac mae’n rhaid i mi ddweud mai dyna pam yr ydym wedi gofyn i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymddangos ger ein bron i rannu’r hyn y mae’n ei feddwl, ac i ystyried yr hyn sy’n rhaid i ni ei newid yn ôl arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol blaenllaw. Dywedodd un o’r tystion arbenigol wrth y pwyllgor fod angen i Fil Cymru fod yn ‘uchelgeisiol’. Heriais hynny, a gofyn pam na allai fod yn ddim mwy na datganiad pragmataidd ac ymarferol o’r hyn sy’n bodoli eisoes. Dywedodd y tyst,

Oherwydd rwy’n credu bod cyfansoddiadau yn cyfleu negeseuon ynglŷn â pha fath o wleidyddiaeth rydych yn ei harfer mewn gwlad, pa fath o gymdeithas yr hoffech fyw ynddi, pa fath o ddyheadau sydd gennych ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Aeth yn ei blaen:

A’r holl negeseuon hyn, symbolaidd neu beidio, ar lefel ddatganiadol neu ar lefel dechnegol iawn—credaf y dylai’r cyfansoddiad fynd ymhellach na mynegiant technegol a chyfreithiol o realiti gwleidyddol yn unig.

Mae rhannau o’r Bil hwn i’w croesawu. Mae’n well na’r drafft gwreiddiol. Mae’n cynnwys rhai buddugoliaethau i Gymru, ond mae hefyd yn cynnwys maglau posibl a allai ddadwneud ein setliad datganoli. Felly, rwy’n rhoi croeso cynnes unwaith eto i Ysgrifennydd Gwladol Cymru—nid yw’n ddieithr i’r Senedd hon—ddychwelyd i’n pwyllgor a’n helpu i wella’r Bil er lles Cymru, er lles pobl Cymru ac er mwyn sicrhau setliad cyfansoddiadol mwy gwydn.