2. 1. Dadl ar Araith y Frenhines

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:36, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ei gyfraniad i’r ddadl heddiw, ac am ei ymateb yn ogystal, ac i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl hefyd. Wrth gwrs, fel y dywedwyd heddiw, mae’r ddadl flynyddol ynglŷn â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU wedi dod yn ddigwyddiad rheolaidd yng nghalendr y Cynulliad, ond os aiff popeth yn iawn, fel y dywedodd pawb, gan gynnwys y Prif Weinidog yn ei sylwadau agoriadol, bydd y dadleuon hyn yn dod i ben. Bydd Bil Cymru yn cael gwared ar y gofynion diangen sy’n cyfyngu ar y ffordd yr ydym yn cyflawni busnes y Siambr hon ar hyn o bryd, ac rydym yn croesawu hynny, ond wrth gwrs, ar lefel bersonol rydym yn croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol, fel y rhoesom groeso i’ch rhagflaenydd—credaf i ni ddweud yr un peth y llynedd—a’ch croesawu, wrth gwrs, nid yn unig fel cyn-Aelod o’r Cynulliad hwn, ond yn bersonol, gan ein bod yn rhannu’r un etholaeth, Bro Morgannwg, a mwynhau’r cyfle hwnnw.

Credaf y gallwn gytuno nad yw’r gofyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol ymweld â’r Cynulliad, i ymgynghori â ni ynglŷn â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, yn cyflawni unrhyw ddiben bellach ac rydym yn cydnabod hynny. Ond mae’n ddiddorol edrych yn ôl a gweld ein bod, ers mis Mehefin 2008, wedi trafod 88 cynnig cydsyniad deddfwriaethol—88 o achosion pan wnaed darpariaeth gan ddeddfwriaeth y DU mewn maes datganoledig, gyda’r Cynulliad yn penderfynu a ddylai roi cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Mae ein ffocws ni, wrth gwrs, ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid i ni fod yn effro i’r gorgyffwrdd rhwng ein deddfwriaeth ein hunain a deddfwriaeth Llywodraeth y DU, a galluogi atebion ar gyfer y DU gyfan lle bo’n briodol i gael eu datblygu drwy ddeddfwriaeth y DU os mai dyna yw ein hopsiwn gorau. Mewn gwirionedd, mae proses y cydsyniad deddfwriaethol yn egwyddor gyfansoddiadol bwysig, a chredaf ei bod yn bwysig dweud hynny yn y ddadl hon y prynhawn yma. Pan fo pwerau deddfwriaethol gan y Cynulliad, ni ddylai San Steffan ddeddfu heb gydsyniad y Cynulliad, na deddfu i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad heb gydsyniad y Cynulliad.

Bydd Bil Cymru yn darparu cydnabyddiaeth statudol, sydd i’w groesawu ar gyfer y confensiwn allweddol hwn. Ni fu ganddo sail statudol yng Nghymru fel sy’n wir, wrth gwrs, yn yr Alban, a bydd Bil Cymru yn darparu hynny. Ac mae hynny’n newid pwysig sydd i’w groesawu. Ond dylai’r Bil ei gwneud yn glir fod y confensiwn yn berthnasol pan fo’r Senedd yn deddfu i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, yn ogystal â phan fo’r Senedd yn deddfu ar faterion sydd eisoes wedi’u datganoli. Mae’n amhosibl dweud ar hyn o bryd sawl gwaith y bydd angen i ni ofyn i’r Cynulliad am ei gydsyniad deddfwriaethol dros y flwyddyn sydd i ddod. Ond rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd gydag asesiad cychwynnol Llywodraeth Cymru o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU a’i goblygiadau ar gyfer busnes y Cynulliad. Rydym eisoes wedi gosod memoranda ar gyfer cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog) a’r Bil Heddlua a Throsedd; mae Mark Isherwood eisoes wedi rhoi sylwadau ar hynny y prynhawn yma.

Hoffwn siarad o blaid y ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. O ran y gwelliant cyntaf, cytunwn y dylid cynnig pwerau i Gymru os ydynt yn cael eu cynnig i’r Alban neu Ogledd Iwerddon. Mae’n bryd cael dull mwy cydlynol a chyson gan Lywodraeth y DU sy’n trin pob rhan o’r DU gyda’r un parch. O ran yr ail welliant, mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau parhad deddfwriaeth bwysig yr UE a roddwyd mewn grym yng Nghymru a gweddill y DU. Nid yw’n glir eto, wrth gwrs, sut y caiff y parhad hwn ei gyflawni, ond mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw’r cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd, yn enwedig, er enghraifft, fel y trafodwyd ddoe yn y Siambr, ar faterion amgylcheddol ac ar ddiogelu hawliau gweithwyr, yn cymryd cam yn ôl.

Dychwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol at fater pwysig yr ymateb ers 23 Mehefin o ran ein hymateb i’r refferendwm. Unwaith eto, rwyf am ddilyn o’r hyn y mae Prif Weinidog Cymru wedi’i ddweud yn ei lythyr at Brif Weinidog y DU, yn dilyn canlyniad y refferendwm. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i warchod buddiannau Cymru, cryfhau’r economi ac uno’r genedl. Mae’n bwysig i ni gydnabod, a dywedodd Prif Weinidog Cymru hyn yn glir iawn wrth Brif Weinidog y DU, y dylai Cymru gymryd rhan lawn yn y broses o drafod ymadawiad y DU o’r UE er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru a’i phobl yn cael eu hystyried yn llawn er mwyn i ni sicrhau’r cytundeb gorau. Rwy’n falch fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud sylwadau ar hynny a’r cyfleoedd yn ei ddatganiad agoriadol.

Er mwyn rhoi rhai enghreifftiau i chi, mae’r Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, eisoes wedi cyhoeddi cyfres o fesurau tymor byr i ddiogelu swyddi a chynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd, gan gynnwys digwyddiad twf swyddi pwysig yng ngogledd Cymru, a chredaf fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cael gwahoddiad i’r digwyddiad hwnnw hefyd. Mae Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau nad yw Cymru’n colli unrhyw gyllid yn dilyn canlyniad y refferendwm. Dyna’r hyn y mae pobl yn dymuno’i glywed o ran ein hymateb. Ddydd Llun, bydd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cyfarfod â ffigyrau allweddol o sectorau amgylcheddol ac amaethyddol Cymru i drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Hoffwn dynnu sylw hefyd at y llythyr a ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Theresa May ddoe, ac mae’n dilyn pwynt Simon Thomas ynghylch gwladolion yr UE. Ysgrifennodd i ddweud ei fod yn fwyfwy pryderus ynghylch sefyllfa gwladolion yr UE sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghymru. Wrth gwrs, rydych chi hefyd wedi gwneud sylwadau, Ysgrifennydd Gwladol, ar y myfyrwyr sy’n dod i Gymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn a’r rhai sydd eisoes yn byw ac yn astudio yng Nghymru. Wrth gwrs, dywedodd y Prif Weinidog wrth yr Ysgrifennydd Cartref fod llawer o sectorau busnes ledled Cymru, ac yn y DU yn gyffredinol yn wir, gan gynnwys y GIG, yn dibynnu ar wladolion yr UE i lenwi swyddi hanfodol. Mae’n gofyn iddi gadarnhau y bydd gwladolion yr UE sy’n gweithio ac yn byw yma pan fydd y DU yn gadael yr UE yn cadw’r hawl i wneud hynny. Mae hefyd yn siarad am brofiadau negyddol gwladolion yr UE a mewnfudwyr eraill o ran effaith ymddygiad camdriniol a throseddau casineb, sydd wedi cael sylw gennym, wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru, a gan yr heddlu a’r comisiynwyr heddlu a throseddu, gan gydnabod bod hwn yn fater hollbwysig, sydd, yn anffodus, yn un o ganlyniadau trist iawn y refferendwm.

Mae llawer o Filiau wedi cael eu crybwyll heddiw—wedi cael eu croesawu neu eu nodi a phwyntiau wedi eu gwneud. Rwy’n siŵr y bydd llawer iawn o ddiddordeb yn nadansoddiad Neil Hamilton o’r diwydiant diodydd meddal mewn perthynas ag ardoll y Bil Cyllid ar y diwydiant diodydd meddal. Wrth gwrs, fel y dywed Jenny Rathbone, mae Llywodraeth Cymru’n dymuno lleihau faint o siwgr y mae pobl yn ei fwyta ac wedi annog yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn gyson i roi camau gweithredu mwy cadarn ar waith ynglŷn â siwgr ar lefel y DU.

Yn briodol ac yn bwysig, mae’n rhaid i mi dynnu sylw at y pwyntiau a wnaed am blismona gan Rhianon Passmore a Steffan Lewis. Byddent yn croesawu’r gwelliannau a gynigiwyd gan y Prif Weinidog i Fil Cymru. Mae hon yn neges gref iawn—yn gyson, rhaid i mi ddweud, ag argymhellion trawsbleidiol comisiwn Silk—fod Llywodraeth Cymru yn cynnig gwelliannau, gan ganolbwyntio ar y ffaith nad yw’r blaenoriaethau a bennir ar gyfer plismona drwy Gymru a Lloegr, o dan y trefniadau presennol, yn gallu adlewyrchu amgylchiadau unigryw Cymru yn gywir, a mynd ymlaen i ddweud mai plismona yw’r unig brif wasanaeth nad yw’n gyfrifoldeb y sefydliadau datganoledig yng Nghymru ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, yr effaith a gaiff hynny o ran cydweithio â gwasanaethau golau glas eraill. O ganlyniad, ceir tystiolaeth glir gan Silk y byddai datganoli yn creu gwell aliniad rhwng polisïau ar gyfer mynd i’r afael â throseddu a’i achosion, yn ogystal ag atebolrwydd dros blismona.

Mae Julie Morgan yn tynnu sylw at ddigwyddiadau pwysig ers y cyflwynwyd Araith y Frenhines yn San Steffan—yn wir, mae Simon Thomas yn sôn sut y mae’r dirwedd wleidyddol wedi newid cymaint—ac mae hi’n iawn i dynnu sylw at y gwrth-ddweud yn Araith y Frenhines, sy’n honni bwriad i gryfhau’r economi a chynyddu cyfleoedd bywyd pobl ifanc, ond yna mae hi’n nodi’n glir, fel y credaf y gallwn ac fel rydym wedi’i wneud yn y Siambr hon, effaith caledi a’r effaith o ran anghydraddoldebau yn dyfnhau a’r toriadau i’n cyllideb, ond hefyd mae’n rhoi enghreifftiau, fel y gallwn ni, o effaith polisïau a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â lles, ac rydym i gyd yn gwybod ac yn deall yr effaith honno ar fywydau pobl sy’n agored i niwed. Rwy’n credu mai dyma pam ei bod mor bwysig ein bod yn edrych ar hyn o ran y persbectif ehangach, o ran yr hyn y gallwn ei wneud gyda’n pwerau a’n cyfrifoldebau, a sut y gallwn eu datblygu a’u cryfhau.

Mae hyn yn dod â mi at y pwynt hollbwysig ynglŷn â fframwaith cyllidol, y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yn ei ddatganiad agoriadol hefyd. Mae cymal 16 yn dileu’r ddarpariaeth yn Neddf Cymru 2014 ar gyfer refferendwm cyn datganoli treth incwm. Wel, ie, os ydym am symud ymlaen â hynny, mae’n rhaid i ni gydnabod bod rhaid iddo ddod gydag ymrwymiad llawn i fframwaith cyllidol y gallwn gytuno arno. Ar hyn o bryd, byddai’r ddarpariaeth yn ei adael yn agored i Drysorlys y DU ddatganoli cyfrifoldebau treth incwm drwy Orchymyn, heb unrhyw ofyn am ymgynghoriad â’r Cynulliad neu Weinidogion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwelliant fel na fydd pwerau gwneud Gorchmynion yn arferadwy oni bai bod fframwaith cyllidol llawn yn ei le, ac mae’n rhaid i hynny gynnwys y pwyntiau a wnaed. Gwnaeth Nick Ramsay y pwynt hefyd ynglŷn â gwrthbwysiad grant bloc teg, ateb hirdymor i gyllid teg, cynnydd yn nherfyn benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru, a materion eraill, ond mae’n rhaid i’r ddwy Lywodraeth gytuno arnynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno dogfen y fframwaith cyllidol gerbron y Senedd cyn gwneud Gorchymyn Trysorlys, ac na ddylid gwneud y Gorchymyn nes y bydd Dau Dŷ’r Senedd a’r Cynulliad wedi cytuno ar y fframwaith cyllidol—sy’n hollbwysig o ran y ffordd ymlaen.

Yn olaf, byddwn yn dweud bod Huw Irranca-Davies wedi dangos y ffordd fel Cadeirydd newydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn dilyn gwaith rhagorol—ac wrth gwrs, y mae’n aelod o hyd—David Melding, rhagflaenydd y Cadeirydd. Mae’n ei gwneud yn glir iawn fod cyfle go iawn yma i ni weithio gyda’n gilydd. Mae’r pwyllgor bellach yn weithredol ac mae’r gwahoddiad wedi dod, nid yn unig cyn y ddadl hon, ond codwyd cwestiynau wrth gwrs ynglŷn ag a fyddech yn derbyn y gwahoddiad i fynychu’r pwyllgor hwnnw fel Ysgrifennydd Gwladol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud hynny, gan fod cymaint y gallwn ei ennill o’r ymgysylltiad llawn hwnnw a’r cwrteisi rydym wedi’i gynnig heddiw.