Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w chwestiynau addysg cyntaf? Dechreuaf drwy ofyn iddi gadarnhau, efallai, unwaith ac am byth i’r Siambr, y bydd y cyllid ar gyfer y polisi maint dosbarthiadau rydym newydd fod yn ei drafod ac rydych wedi ymrwymo iddo, yn cael ei ddarparu ar wahân i’r addewid addysg o £100 miliwn a wnaed gan y blaid Lafur yn yr etholiad.