Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
A gaf fi ddweud bod rôl y consortia yn rôl y ceir trafodaeth yn ei chylch? Roedd ymrwymiad fy maniffesto i ddiddymu’r consortia rhanbarthol yn seiliedig ar y ffaith fod y maniffesto hefyd yn galw am ad-drefnu llywodraeth leol. Er bod diffyg eglurder yn dal i fod ynghylch yr hyn fydd map neu ffurf yr hyn fydd awdurdodau lleol yn ei wneud yn y dyfodol yng Nghymru, rwy’n meddwl bod rhaid i ni fod yn ofalus wrth newid y system gwella addysg sydd gennym yng Nghymru tra bo’r ansicrwydd hwnnw’n bodoli.
Yr hyn sy’n amlwg i mi yw ein bod wedi cael newyddion calonogol gyda chyhoeddi adroddiad Estyn ar gonsortia canol de Cymru. Mae’r newyddion ynghylch GwE, consortia gogledd Cymru, yn llai na chadarnhaol. Byddaf yn aros am adroddiadau Estyn ar bob un o’r pedwar consortiwm cyn i mi wneud datganiad pendant ar y ffordd ymlaen o ran strwythurau gwella ysgolion yng Nghymru.