<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 6 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:08, 6 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud pa mor falch yr wyf y bydd Darren Millar yn fy nghysgodi? Ar ôl gweithio’n agos â’n gilydd dros y pum mlynedd diwethaf ar y pwyllgor iechyd, byddwn wedi gweld ei golli pe na bai’r newid wedi’i wneud. Fe fyddwch yn ymwybodol o ddatganiad y Prif Weinidog fod y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth ddeddfwriaethol i’r Llywodraeth; mae’n hen bryd ei gael. Rwy’n gwybod ei fod yn destun gofid i lawer nad oedd y Llywodraeth mewn sefyllfa i symud ymlaen â hyn yn y tymor diwethaf. Caiff y Bil ei gyflwyno i’r Cynulliad gan fy nghyd-Weinidog ac rydym yn gobeithio cyhoeddi Bil drafft cyn gynted ag y bo modd.