Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Rwy’n diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Fel mae’n ymwybodol, mae lot o drafodaethau wedi bod ynglŷn â sut gall colegau addysg bellach fod yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A ydy’r Gweinidog yn cytuno y dylai’r rhaglen honno gynnwys colegau addysg bellach? Yn wir, ym maniffesto’r Blaid Lafur roedd addewid y byddai’r £2 biliwn o fuddsoddiad yn cynnwys colegau addysg bellach. Wrth gwrs, mae buddsoddi yn meddwl lot mwy nac adeiladau. A fydd y Gweinidog yn fodlon rhannu â ni yn y Cynulliad rhywbryd ei weledigaeth ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a hefyd, efallai, ran o’r strategaeth benodol ar gyfer addysg bellach yng Nghymru?