Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o’r gwaith ardderchog a wneir gan ysgol anghenion arbennig Trinity Fields yn etholaeth Caerffili dan arweiniad y pennaeth, Ian Elliott, a’i staff rhagorol. Rwy’n datgan buddiant yma fel un o lywodraethwyr y sefydliad hwnnw. Fel llawer ohonom yn y Siambr, ac arweinwyr yr ysgol, rydym yn cefnogi egwyddorion y Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni, ond ar hyn o bryd, nid yw’r ysgol ond yn gyfrifol am ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol hyd nes eu bod yn 19 oed. O ystyried hynny, a allwch roi gwybod i mi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r Bil hwn i sicrhau ymrwymiad llawn y gwasanaeth iechyd gwladol a’r byrddau iechyd i ddarparu’r adnoddau a’r gwasanaethau i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth hyd nes eu bod yn 25 oed?