Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 6 Gorffennaf 2016.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 34, yn erbyn y cynnig—mae’n ddrwg gennyf, y gwelliant, mae’n ddrwg gennyf. Felly, o blaid gwelliant 1 34, yn erbyn gwelliant 1 14, neb yn ymatal. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.