Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Brif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar â fforwm iechyd y Drenewydd, a ddywedodd wrthyf nad oes unrhyw wasanaeth meddyg teulu na gofal sylfaenol o gwbl yn y Drenewydd rhwng chwech o’r gloch a 12 o'r gloch y nos. Mae'r feddygfa deulu’n cau am chwech o'r gloch, ac mae'n ddigon anodd cael apwyntiad yno, ac mae'r meddyg teulu Shropdoc, sy'n cael ei redeg o Ysbyty'r Drenewydd, yn dechrau am hanner nos. Rhwng chwech a 12, mae’n rhaid i bobl yn y Drenewydd deithio i'r Trallwng er mwyn cael gafael ar wasanaethau meddyg teulu. A ydych chi’n credu bod hwnnw'n wasanaeth digonol o ran gwasanaethau meddyg teulu yn y Drenewydd?