Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Mae eich Llywodraeth wedi gwneud yn siŵr mai Cymru sydd â’r amddiffyniad gwannaf yn y DU rhag lobïo masnachol. Nid oes cofrestr. Dywedodd y Llywydd diwethaf nad yw’r un problemau â San Steffan gennym ni. Ond, o'r hyn y gallaf ei weld, mae’n ymddangos bod cwmnïau fel Deryn, sy’n gwerthu mynediad a gwybodaeth i'r cynigydd uchaf, ym mhobman yn y Cynulliad hwn. Nid oeddwn i hyd yn oed yn cael cyflwyno cwestiwn am arian am fynediad at Weinidogion Cymru. Nid ydym ni’n credu mewn Llywodraeth agored yn amlwg. Felly, beth ydych chi’n ei guddio, Brif Weinidog?