Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Brif Weinidog, efallai y gallaf i droi materion ychydig yn fwy adeiladol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gwleidyddion, a Gweinidogion yn arbennig, yn gwrando, ac rwy’n gobeithio y gwnewch chi nodi ffyrdd y gall eich Gweinidogion, naill ai'n unigol neu ar y cyd, wrando ar fuddiannau hanfodol rhanddeiliaid allan yna, ac unigolion yn wir. Roedd eich rhagflaenydd yn arfer cynnal sesiynau Cabinet meicroffon agored; nid wyf yn credu bod y rheini yn digwydd mwyach. Efallai fod dulliau eraill ond, mewn gwirionedd, mae gwrando ar safbwyntiau pobl yn allweddol ar gyfer penderfyniadau llywodraethol da.