Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Wel, mae'r rhain yn faterion a ystyriwyd gan y pwyllgor safonau yn 2013—nid pwyllgor sy'n cael ei redeg gan y Llywodraeth—a daeth i'r casgliadau y daeth iddynt. Dim ond i ail-bwysleisio, nid yw Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol; mae Gweinidogion, wrth gwrs, yn cyfarfod â sefydliadau, fel elusennau ac yn y blaen, er mwyn gwrando ar eu safbwyntiau. Ond, yn sicr, nid yw'n wir y gall cwmnïau lobïo masnachol ddod â chleientiaid i gyfarfod â Gweinidogion. Nid yw hynny'n digwydd, yn sicr, ac ni fydd yn digwydd ychwaith.