Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Wel, gallaf ddweud bod y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gweithio gyda gwasanaethau lleol er mwyn ceisio darparu'r gwasanaethau y byddai pobl yn eu disgwyl. Fe wnaethom gyhoeddi y llynedd y byddai gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol newydd yn cael eu sefydlu ledled Cymru. Maen nhw’n datblygu'n dda, ac mae 30 o staff arbenigol newydd wedi eu recriwtio, gyda chymorth £1.5 miliwn o fuddsoddiad newydd.