<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:43, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod pan fydd Cymru yn cael ei harwain gan Brif Weinidog benywaidd. Brif Weinidog, bydd Prif Weinidog y DU newydd yfory, sy'n dweud ei bod yn bwriadu gweithredu tynnu'n ôl y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, barn Plaid Cymru yw bod yn rhaid i'r Prif Weinidog nesaf gyflawni'r addewidion a wnaed i bobl yng Nghymru gan yr ymgyrch i adael, hyd yn oed os yw hi'n dod o ochr arall y ddadl. Rydym ni eisiau gweld safbwynt negodi swyddogol i Gymru i'w gytuno gan y Cynulliad hwn ac ar ei desg hi cyn gynted â phosibl. Brif Weinidog, pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi fethu ag ymrwymo i gyhoeddi safbwynt ffurfiol nac iddo gael ei drafod a'i gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cynulliad hwn. Er y byddwn yn derbyn bod y Prif Weinidog newydd yn dod i mewn i’w swydd yn gynharach o lawer na'r disgwyl, a allwch chi gadarnhau mai eich nod fydd ffurfio safbwynt negodi swyddogol wedi ei gytuno ac y byddwch yn pwyso ar Brif Weinidog newydd y DU am i Gymru gael rhan uniongyrchol mewn trafodaethau fel y cynigiwyd gan David Cameron?