<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:45, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Byddwch yn cofio yr wythnos diwethaf, pan fuom yn trafod hyn, fy mod i wedi awgrymu bod angen i chi gael gair gyda'ch Aelodau Seneddol yn San Steffan, a bod angen i chi ddweud wrthyn nhw am gallio a bwrw ymlaen â'u swyddi. Trafodwyd y gwelliannau i Fil Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin eto neithiwr, ac ymatalodd eich ASau eto—y rhai a oedd yno, o leiaf—ar bolisi Llywodraeth Cymru, o ran datganoli plismona y tro hwn. Fe wnaethant yn union yr un fath yr wythnos diwethaf, gan ymatal ar bolisi Llywodraeth Lafur Cymru i greu awdurdodaeth gyfreithiol. Pam nad oes gan eich ASau Llafur unrhyw broblem yn cefnogi pwerau plismona Manceinion Fwyaf ond nad ydynt yn gallu perswadio eu hunain i gefnogi datganoli plismona i Gymru? Pam mae eich ASau yn gadael i’r Torïaid fynd yn groeniach fel hyn, a sut y gallwch chi amddiffyn eu hymddygiad, Brif Weinidog?