<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, dau beth: mae’r Ysgrifennydd yn cyfarfod â thîm prynu'r rheolwyr heddiw ac, wrth gwrs, mae ganddo gwestiwn brys yr oeddem ni’n fodlon ei dderbyn, wrth gwrs, yn ymwneud â digwyddiadau’r penwythnos. Roedd gen i uwch swyddog ddydd Gwener—[Torri ar draws.] Roedd gen i uwch swyddog ddydd Gwener wedi’i leoli ym Mumbai sydd wedi adrodd yn ôl i mi. Y cwestiwn i Tata nawr yw hyn: rydym ni wedi rhoi pecyn ariannol ar y bwrdd. Rydym ni’n disgwyl y bydd quid pro quo, ac nid yw hynny’n golygu bod angen i ni weld amodau o ran sicrwydd am swyddi yn y dyfodol a sicrwydd o ran ymrwymiad am gyfnod penodol o amser, am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, mae angen i ni weld rhagor o gynnydd ar y mater pensiynau, nad oes gennym unrhyw reolaeth drosto, a’r mater o brisiau ynni mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ni becyn ar y bwrdd y credwn y byddai Tata yn fodlon ag ef. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu dangos i bobl Cymru y bydd y pecyn hwnnw’n cyflawni'r hyn y byddent yn ei ddisgwyl, ond mae angen i ni weld cynnydd nawr, yn enwedig ar fater y pensiynau.