<p>Datblygu Pêl-droed yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n meddwl bod yr un peth yn wir—. Mae fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Lanelli, yn fy hysbysu bod Sir Gaerfyrddin yn yr un sefyllfa—sy’n cael ei rhedeg gan ei blaid ef, wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod cynghorau mewn sefyllfaoedd anodd yn ariannol, ond mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydynt yn gwneud cyfleusterau yn rhy ddrud i bobl yn y cymunedau hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, mewn gwirionedd, sef bod angen i ni wneud yn siŵr, lle mae cyfleusterau’n cael eu datblygu, nad ydynt yn mynd mor ddrud fel na all pobl eu defnyddio. Pan fo perygl o wneud hynny, byddem yn annog pawb dan sylw i feddwl eto er mwyn gwneud yn siŵr bod cyfleusterau ar gael i bobl.