<p>Datblygu Pêl-droed yng Nghymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Dyma'r materion yr hoffem eu hystyried gyda chyrff llywodraethu chwaraeon. Mae'r Aelod yn anarferol o onest pan ddywed nad oedd ganddi unrhyw ddiddordeb mewn pêl-droed tan nawr. [Torri ar draws.] Wel, mae croeso i gefnogwyr newydd bob amser, wrth gwrs. Mae'n anodd tanbwysleisio’r cyhoeddusrwydd y mae hyn wedi ei roi i’n cenedl. Roeddwn i ym Mharis ar noson y rownd gynderfynol. Roeddwn i yn Mametz y diwrnod canlynol. O’m cwmpas, y cwbl y gallwn ei glywed oedd pobl yn dweud 'Pays de Galles'. Mae’r math hwnnw o gyhoeddusrwydd yn anodd iawn i ni ei ailadrodd. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar hynny, ac rydym ni’n gweithio gyda Croeso Cymru er mwyn i hynny ddigwydd.

Mae hi'n gwbl gywir i ddweud hefyd bod y tîm wedi bod yn esiampl dda cyn belled ag y mae pobl ifanc yn y cwestiwn. Byddant yn gweld ei bod yn bosibl bod yn hynod lwyddiannus ym myd pêl-droed—ac, yn wir, mewn unrhyw gamp broffesiynol arall—heb fod â baich emosiynol, os caf ei roi felly, fel yr ydym ni wedi gweld yn y blynyddoedd a fu. Rydym ni’n ffodus yng Nghymru nad ydym ni wedi colli llawer o gaeau chwarae ysgolion, fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill dros flynyddoedd lawer, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Chwaraeon Cymru a’r cyrff llywodraethu nawr er mwyn darparu cymaint o gyfleusterau hygyrch o'r safon uchaf ag y galllwn ar draws Cymru.