Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Gall addysg i oedolion gyflawni swyddogaeth hanfodol i dorri'r cylch tlodi. Dyna oedd y neges o wobrau addysg oedolion Ysbrydoli! y mis diwethaf, pryd y cyflwynais y wobr newid gyrfa oes. Bydd adeilad £22 miliwn newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr yn cynnig lleoliad dyheadol ar gyfer addysg oedolion, ond yr her hefyd yw sicrhau darpariaeth addas o gyrsiau o ansawdd da i ddysgwyr. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr i gyflawni hyn?