Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Mae hynny'n wir. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth, wrth gwrs, mewn sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio'n eang mewn ysgolion. Rydym ni’n gwybod bod enghreifftiau da fel Gwynedd, fel Ceredigion, lle ceir canolfannau sy'n galluogi plant i —‘trochi’ yw’r gair yn y Gymraeg; nid yw'n gweithio yr un fath yn Saesneg, gan ei fod yn golygu dwyno yn Saesneg, os byddwch yn ei gyfieithu’n llythrennol. [Torri ar draws.] 'Ymdrwytho'; dyna air gwell—iddyn nhw gael eu hymdrwytho yn yr iaith. Ac maen nhw’n gweithio'n dda iawn, iawn. Rydym ni’n canfod wedyn, wrth gwrs, bod plant yn gallu dylanwadu ar eu rhieni a helpu eu rhieni i ddysgu Cymraeg, gan eu bod nhw eu hunain yn dysgu Cymraeg mor hawdd.