Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Mae'r Aelod yn beirniadu Cyngor Conwy a'r ffordd y maen nhw wedi ymddwyn. Gwn y bu pryderon yng Nghonwy, yn enwedig o ran nifer o ysgolion—yn ardal Caerhun rwy’n meddwl, ac yng Nghyffordd Llandudno hefyd rwy’n credu. O ran Cyffordd Llandudno, deallaf y bu ailymgynghoriad, sydd ar agor ar hyn o bryd ac a fydd ar agor tan 27 Gorffennaf. O ran Caerhun, rwy’n deall bodd hynny wedi ei gymeradwyo eisoes. Ond mae'n gywir i ddweud, pan ein bod yn rhoi safonau ar waith rydym yn disgwyl cydymffurfiad â nhw wrth gynnig cau ac uno ysgolion, rydym ni’n disgwyl cydymffurfiad â'r broses. Ceir maglau cyfreithiol i awdurdodau lleol oni bai eu bod yn gallu dangos, wrth gwrs, eu bod wedi dilyn y weithdrefn gywir, a byddem yn disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud hynny.