<p>Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:02, 12 Gorffennaf 2016

Yng ngoleuni’r dyletswyddau sydd nawr, wrth gwrs, ar y sector cyhoeddus yn dilyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oni ddylai fod gorfodaeth ar bob adeilad sy’n cael ei godi gydag arian cyhoeddus, ac, yn y cyd-destun yma, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i fod yn defnyddio pob cyfle posib o safbwynt ynni adnewyddadwy?