<p>Recrwitio Meddygon Teulu ym Mhowys</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Do, gwnaethom fuddsoddiad ychwanegol o dros £40 miliwn y llynedd mewn gofal sylfaenol ac roedd £4.5 miliwn o'r cyllid hwnnw wedi ei dargedu at arallgyfeirio’r gweithlu, gan gynnwys creu 300 o swyddi mewn amrywiaeth o swyddi gofal sylfaenol. Mae’r Aelod yn sôn am Goelbren yn benodol; mae'n rhan o feddygfa deulu Cwm Dulais ym Mlaendulais. Bu problemau recriwtio, a chanlyniad hynny fu lleihau nifer y sesiynau meddygon teulu yng Nghoelbren. Gwn fod y feddygfa yn mynd trwy broses cefnogi cynaliadwyedd gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, oherwydd, er ei fod yn rhan o Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn ffisegol, PABM yw ei hardal weithredu, ac mae'r ddau fwrdd iechyd yn gweithio'n agos i gytuno ar ateb tymor hwy i sicrhau’r ddarpariaeth barhaus o wasanaethau o ansawdd uchel.