<p>Recrwitio Meddygon Teulu ym Mhowys</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, os yw meddygon teulu yn dymuno cael eu hystyried fel contractwyr a busnesau annibynnol, mae risg yn gysylltiedig o ran y gostyngiad posibl i werth adeiladau. Ond, nid wyf yn gweld pam y dylai hynny fod yn wir o reidrwydd. Mae'n gynyddol wir bod llawer o'r rhai sy'n dymuno mynd i faes ymarfer cyffredinol nad ydynt eisiau prynu i mewn i feddygfa—maen nhw eisiau bod yn feddygon teulu cyflogedig. Mae'n duedd yr wyf yn siŵr bod llawer ohonom wedi ei gweld ledled Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ac, yn wir, y proffesiwn, ddarparu ar ei gyfer.

O ran Powys yn ei chyfanrwydd, gallaf ddweud y bu chwech o feddygon teulu partner newydd ym Mhowys ac 11 o feddygon teulu cyflogedig a ddechreuodd ar eu gwaith yn ystod 2015-16.