Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Rydym ni wedi gwneud y pwynt hwnnw. Y broblem i ni yw hon: yn y dyfodol, bydd polisi amaethyddol yn gwbl ymreolaethol ac wedi’i ddatganoli'n llwyr. Nid ydym ni’n mynd i dderbyn ymyrraeth gan San Steffan yn hynny o beth. Mae'n fater sydd yn gyfan gwbl i bobl Cymru, pobl yr Alban ac yn wir Lloegr benderfynu pa fath o bolisi amaethyddol y dylid ei ddilyn. Yr anhawster, wrth gwrs, yw’r arian. Sut bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu? Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwarant gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn derbyn o leiaf ei chyfran bresennol o gyllid. Fy ofn mawr yw y bydd ymgais i Farnetteiddio cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, sy'n golygu gostyngiad sylweddol i gyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru. Gorau po gyntaf y bydd ffermwyr Cymru yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt gan Lywodraeth y DU.