Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Mae’r Aelod, Russell George, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr, a gallaf ddweud ein bod yn mynd ati i werthuso nifer o fesurau i gynorthwyo’r sector dur gydag ardrethi busnes, ac rydym ni’n profi’r rhain yn erbyn cyfraith cymorth gwladwriaethol bresennol. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n cymryd sylw o'r hyn a ddigwyddodd yn refferendwm yr UE ac rydym ni hefyd yn trafod, gyda Llywodraeth y DU yn arbennig, sut y gellir defnyddio ardrethi busnes i sicrhau bod dyfodol i ddur.