Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Rydym yn dal i fod yn hyderus na fydd llithriant ac y bydd pontio di-dor o’r fasnachfraint bresennol i'r un newydd. Mae'r ymgynghoriad sydd wedi ei gynnal wedi bod yn un cyhoeddus, ond byddwn hefyd yn dilyn hynny ag ymgynghoriad arall ar ôl inni allu dyfarnu statws gweithredwr a phartner datblygu. A byddaf yn cwrdd â nifer o arweinwyr awdurdodau lleol i drafod yr union faterion hynny y cododd yr Aelod ynghylch y tir a hefyd y gwaith o reoli llwybrau a gwasanaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol.