Part of QNR – Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2016.
Os llwyddir i sicrhau morlyn llanw bae Abertawe, yr amcangyfrif yw y bydd hyn yn creu 1,900 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda chyfleoedd sylweddol i ddatblygu cadwyni cyflenwi yn y gymuned ehangach, gan gynnwys Castell-nedd. Byddai’n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu sector amrediad llanw ar draws y Deyrnas Unedig.