Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r prosiect canolfan dreftadaeth ar gyfer canolbarth Cymru yn brosiect cyffrous newydd yn y Drenewydd, sy’n anelu i greu hunaniaeth brand ar gyfer canolbarth Cymru, drwy fanteisio ar dechnoleg ddigidol a hyrwyddo ein diwylliant, gan gynnwys rhoi teyrnged i’r diwygiwr cymdeithasol eiconig enwog, Robert Owen, o’r Drenewydd. Nawr, maent hefyd wedi hyrwyddo’r prosiect gyda Croeso Cymru, fel rhan o ymgyrch farchnata 2017, Blwyddyn y Chwedlau. A wnewch chi ymuno â mi a dangos eich cefnogaeth i’r prosiect hwn, ac amlinellu pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu yn benodol i gael cyllid i’r prosiect hwn yn y Drenewydd?