Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach a thrwy wneud hynny, rwyf hefyd yn datgan fy mod yn berchennog ar fusnes bach fy hun. Bydd busnesau bach yn Lloegr yn elwa o nifer o newidiadau blaenoriaethol allweddol a gyflwynodd Llywodraeth y DU yn ei chyllideb ar gyfer 2016 er mwyn cynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint. Mae hyn yn cynnwys rhyddhad ardrethi busnesau bach i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,000 a £15,000. Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi dros yr wythnosau diwethaf yn pryderu am nad oedd y cynlluniau a oedd ar gael dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. A gaf fi ofyn i chi, felly, a fyddwch yn ymrwymo i ddyblygu polisi Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi busnesau bach yng Nghymru ac amlinellu’r amserlen ar gyfer diwygio rhyddhad ardrethi busnes?