Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi amlinellu’n gywir ymrwymiad eich maniffesto i dorri trethi busnesau bach. A gaf fi ofyn i chi sut y byddech yn gwneud hynny ar gyfer busnesau bach nad ydynt ar hyn o bryd yn talu ardrethi busnes? Sut rydych chi’n mynd i dorri trethi i’r busnesau bach hynny?