<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:42, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â’r ffaith fod yna nifer o drethi y byddai busnesau bach yn eu talu ac yn amlwg, gan ei fod yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru i dorri trethi busnesau bach, os nad ydynt yn talu ardrethi busnes, yna yn amlwg bydd yr ymrwymiad yn y maniffesto yn torri trethi mewn meysydd eraill.

Mae Banc Datblygu i Gymru hefyd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r bwlch cynyddol yng nghyllid banciau ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd â’u bryd ar ehangu. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â’r camau nesaf ar gyfer y banc datblygu. Mae rhywfaint o bryder y bydd cyfraddau llog yn gosbol os yw’r banc yn mynd i fod yn hunangyllidol. Felly, efallai y gallech amlinellu sut y bydd y banc yn gweithio’n ymarferol a sut y bydd yn wahanol i Cyllid Cymru—pa un a fydd yn darparu cymorth busnes wedi’i deilwra, yn ogystal â ffynhonnell gyllid.